LMS Stanier
Diwrnod Agored y Ganolfan ar gyfer Ymgysylltu Diwylliannol
Cysylltodd Ceris Dien i ddweud:
“‘Rwyf newydd ddod ar draws eich wefan ddiddorol ynglyn â Bae Colwyn. ‘Rwyf yn gweithio’n wirfoddol gyda sefydliad cymunedol lleol – “Y Ganolfan ar gyfer Ymgysylltu Diwylliannol / Centre for Cultural Engagement” – sy’n ceisio trefnu a hybu gweithgareddau diwylliannol yn y Bae. Y nod yw i annog aelodau’r gymuned, o wahanol gefndiroedd diwylliannol, i ddod i ddeall a pharchu ‘i gilydd yn well, er engrhaifft trwy ddysgu am draddodiadau celfyddydol a ieithyddol ei gilydd.
“Fel rhan o’r ymdrech hyn ‘rwyf yn awyddus i ehangu gwybodaeth o, a pharch at, hanes yr ardal, ac yn arbennig lle’r Gymraeg yn y gymuned. ‘Rydym yn cynnal Diwrnod Agored ar y 4ydd Gorffenaf yn ein lleoliad newydd yn 10 Greenfield Road, Bae Colwyn. ‘Rwyf wrthi’n paratoi arddangosfa bychan i egluro tarddiad enwau llefydd lleol fel ‘Colwyn’ ac ‘Eirias’.”
Mae na ddawnsio o Sri Lanka, cyfle i drio caligraffeg, cerddoriaeth o’r 60au, ayb. Mwy o fanylion ar wefan NWAMI.
Poster LNWR
Hen siop recordiau Emyr ac Elwyn ym Mae Colwyn
Geraint Jarman a’r Cynghaneddwyr oedd fy hoff grŵp pan oeddwn i yn fy arddegau. Yn hen siop recordiau Emyr ac Elwyn oeddwn i fel arfer yn prynnu eu casetiau. Deuawd lleol oedd Emyr ac Elwyn. Nes i weithio gydag un ohonyn nhw – y diweddar Gari Williams – fel peirianydd sain yn BBC Bangor yn 1981. Cyflwynodd Gari sioe prynnu a gwerthu ar Radio Cymru adeg hynny.
Roedd na dipyn o brynnu recordiau’n mynd ymlaen yn y siop. Roeddwn i arfer bod yn roadie gyda band Gareth Gaz Top Jones: Backseat. Un o’r gigs sy’n aros yn y cof yw un gydag Amsterdam a Seventeen yn y Little Theatre, Rhyl. Prif leisydd Seventeen oedd Mike Peters. Newidiodd y grwp eu henw i The Alarm nes mlaen a nes i weithio gyda nhw ar fersiwn Cymreag o’u halbym Change Newid. Dwi’n cofio gweld Mike yn siopa am recordiau yn siop Emyr ac Elwyn yn ei siaced tweed yn y 70au.
Yn ogystal a rhedeg siop recordiau ym Mae Colwyn, diddanodd Emyr ac Elwyn mewn ambell noson lawen ar hyd arfordir gogledd Cymru yn y 60au/70au ac roedd eu cyfraniad i gymdeithas Cymraeg y cyfnod yn sylweddol.
Beth am drefnu parti Cinio Mawr yn eich stryd chi?
Mae ‘na ffrind i mi, Gwion Thorpe, sy’n trefnu Y Cinio Mawr 2015. Dydd Sul y 7fed Mehefin 2015 yw dyddiad digwyddiad eleni.
Mae cynnal Cinio Mawr yn ffordd perffaith i ddod a pobl at ei gilydd. Mae’n syml i trefnu ac yn cyfle gwych i bobl cymdeithasu yn y Gymraeg. Gall digwyddiad fod yn ginio syml yn eich gardd i barti stryd neu dathliad yn eich capel neu canolfan cymdeithasol lleol. Mae beth ‘dych hi’n gwneud a sut ‘dych chi’n paratoi i fynny i chi a does dim angen iddo gosti’r byd.
Ymwelwch â www.yciniomawr.com neu ffoniwch 0845 850 8181 i gofrestru eich diddordeb ac i archebu eich pecyn Cinio Mawr am ddim.
