Hen siop recordiau Emyr ac Elwyn ym Mae Colwyn

Geraint Jarman a’r Cynghaneddwyr oedd fy hoff grŵp pan oeddwn i yn fy arddegau. Yn hen siop recordiau Emyr ac Elwyn oeddwn i fel arfer yn prynnu eu casetiau. Deuawd lleol oedd Emyr ac Elwyn. Nes i weithio gydag un ohonyn nhw – y diweddar Gari Williams – fel peirianydd sain yn BBC Bangor yn 1981. Cyflwynodd Gari sioe prynnu a gwerthu ar Radio Cymru adeg hynny.

Roedd na dipyn o brynnu recordiau’n mynd ymlaen yn y siop. Roeddwn i arfer bod yn roadie gyda band Gareth Gaz Top Jones: Backseat. Un o’r gigs sy’n aros yn y cof yw un gydag Amsterdam a Seventeen yn y Little Theatre, Rhyl. Prif leisydd Seventeen oedd Mike Peters. Newidiodd y grwp eu henw i The Alarm nes mlaen a nes i weithio gyda nhw ar fersiwn Cymreag o’u halbym Change Newid. Dwi’n cofio gweld Mike yn siopa am recordiau yn siop Emyr ac Elwyn yn ei siaced tweed yn y 70au.

Yn ogystal a rhedeg siop recordiau ym Mae Colwyn, diddanodd Emyr ac Elwyn mewn ambell noson lawen ar hyd arfordir gogledd Cymru yn y 60au/70au ac roedd eu cyfraniad i gymdeithas Cymraeg y cyfnod yn sylweddol.

emyracelwyn-sibrwd-llunNicDafis

Author: melyn

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *