Telerau ac amodau

Trwy fynd mewn i wefan BaeColwyn.com, rydych yn cytuno yn ddiamod i’r amodau a thelerau hyn. Os nad ydych yn eu derbyn, a fyddech gystal â pheidio â cheisio mynediad i wefan BaeColwyn.com.

1. Mae pob hawl, gan gynnwys hawlfraint a hawl bas data, yng ngwefan BaeColwyn.com a’i gynnwys, yn eiddo neu’n drwyddedig i BaeColwyn.com, neu fel arall yn cael ei ddefnyddio gan BaeColwyn.com fel y caniateir gan gyfraith berthnasol.

2. Mae’r holl ddeunydd a gynhwysir ar wefan BaeColwyn.com gan gynnwys testun, delweddau, nodau masnachol, logos, nodau gwasanaeth a thebygrwydd personol yn ddeunydd perchnogol neu hawlfraint ac oni nodir yn wahanol ni ellir ei gopïo, ei atgynhyrchu, ei lwytho i lawr, ei bostio, ei ddangos, ei drosglwyddo, neu ei ddosbarthu ac ni ellir ymyrryd ag ef mewn unrhyw fodd, heblaw fe’ch caniateir i lwytho i lawr un copi o’r deunydd a ddangosir ar wefan BaeColwyn.com ar eich cyfrifiadur cartref at ddefnydd personol, anfasnachol yn unig, ar yr amod eich bod yn cadw pob hawlfraint, cydnabyddiaeth a rhybuddion eraill a gynhwysir ar y deunydd. Ni fyddwch yn addasu deunydd o’r fath nac yn ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.

3. Heblaw fel y caniateir uchod, rydych yn ymrwymo i beidio â chopïo, cadw mewn unrhyw gyfrwng (gan gynnwys mewn unrhyw wefan arall), dosbarthu, trosglwyddo, ail-drosglwyddo, darlledu, addasu, neu ddangos mewn man cyhoeddus unrhyw ran o wefan BaeColwyn.com heb ganiatâd ysgrifenedig blaenorol gan BaeColwyn.com neu yn unol â Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Hawlfraint a Hawliau Cysylltiedig 1996.

4. Nid yw BaeColwyn.com yn gwarantu y bydd yr elfennau a gynhwysir yn y deunydd ar y wefan hon yn ddi-dor ac yn rhydd rhag gwallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, na fod y wefan hon neu’r gweinyddwr y darperir y wefan drwyddo yn rhydd o firysau neu fygau neu’n cynrychioli cywirdeb a’r gallu i ddibynnu ar natur y deunyddiau.

5. Er y bydd BaeColwyn.com yn defnyddio ymdrechion rhesymol i fonitro ac adolygu unrhyw drafodaethau, sgyrsiau, sylwadau, trosglwyddiadau arall ar wefan BaeColwyn.com o dro i dro ac i ddilyn yr arfer gorau yn gyffredinol, nid yw BaeColwyn.com yn gallu monitro’r holl ddeunydd yn barhaol ac ni fydd BaeColwyn.com yn gyfrifol nac yn atebol ac y mae trwy hyn yn ymwrthod ar goedd, cyn belled ag y mae’r gyfraith yn caniatáu, â phob cyfrifoldeb ac atebolrwydd beth bynnag y bo am unrhyw wall, anghywirdeb, camgyflead, difenwad, esgeulustod, anwiredd, anlladrwydd, cabledd, deunydd pornograffaidd, deunydd peryglus neu unrhyw ddeunydd arall a gynhwysir yn ei wefan. Yn ogystal, nid yw BaeColwyn.com yn adolygu nac yn monitro cynnwys unrhyw dudalennau oddi ar y wefan nac unrhyw wefannau sy’n gysylltiedig â gwefan BaeColwyn.com ac nid yw ac ni fydd yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am gynnwys y rhain.

6. Er bod BaeColwyn.com wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a geir ar wefan BaeColwyn.com yn gywir ac yn cael ei ddiweddaru, ni ddylid trin y wybodaeth ar y wefan fel datganiadau cyflawn ac awdurdodol. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei diweddaru ond bwriedir i’r wybodaeth gael ei chynnig fel BaeColwyn.com yn unig. Os ydych yn dymuno gwybod mwy am unrhyw destun a gynhwysir ar y wefan rydym yn argymell eich bod yn cysylltu gyda’r sefydliadau arbenigol a restrir neu y cyfeirir atynt ar y wefan neu’n ffonio BaeColwyn.com’n uniongyrchol a fydd yn gallu eich cyfeirio at y sefydliadau arbenigol a fydd o bosib yn medru eich cynorthwyo.

7. Mae BaeColwyn.com yn croesawu derbyn eich cywiriadau, sylwadau ac unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd gennych parthed ein gwefan. Cysylltwch â BaeColwyn.com ar y cyfeiriad e-bost canlynol: post (at) abergelepost.com

8. Ni ellir gwneud unrhyw ran o’r wefan hon ar gael fel rhan o wefan arall heb ganiatâd ysgrifenedig BaeColwyn.com.

9. Ac eithrio fel y nodir ym mharagraff 2 uchod, er mwyn cael awdurdod (y bydd awdurdod o’r fath yn cael ei roi yn ôl disgresiwn BaeColwyn.com yn unig) i atgynhyrchu unrhyw ddeunydd neu gynnwys a geir ar y wefan hon, cysylltwch â BaeColwyn.com post (at) abergelepost.com Am fanylion pellach am y cysylltiadau i wefan BaeColwyn.com ac oddi yno, cysylltwch â phost (at) abergelepost.com

Fforymau ac Ystafelloedd Sgwrsio

Ni chaniateir i chi:

1. Bostio neu drosglwyddo’r deunydd canlynol ar wefan BaeColwyn.com ar unrhyw adeg:

* deunydd anweddus, astrus, aflednais, neu bornograffaidd;
* deunydd sy’n anghyfreithlon, yn fygythiol, yn sarhaus, yn ddifrïol neu sy’n aflonyddu;
* deunydd sy’n atgas neu’n annymunol i bobl o hil neu genedl arall;
* deunydd sy’n ddifenwol neu’n derfysglyd;
* deunydd sy’n gableddus;
* llythyrau cadwyn, cynlluniau pyramid neu hysbysebu na ofynnwyd amdano; neu
* unrhyw ddeunydd sy’n torri ar hawliau person arall megis hawlfraint neu hawliau moesol;

2. Gwneud unrhyw beth sy’n cyfyngu ar ddefnydd neu fwynhad defnyddwyr eraill gwefan BaeColwyn.com;

3. Defnyddio gwefan BaeColwyn.com at unrhyw ddiben anghyfreithlon;

4. Tarfu ar wefan BaeColwyn.com trwy, er enghraifft, wneud i’r sgrin sgrolio’n rhy gyflym i ddefnyddwyr eraill teipio eu negeseuon, neu newid testun y drafodaeth heb rybudd er mwyn atal llif y ddeialog (os yn berthnasol).

5. Mae BaeColwyn.com yn cadw’r hawl i derfynu eich mynediad i’r wefan yn syth ac mae’n bosib y bydd yn cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn os ydych yn torri’r rheolau ar gyfer ymddygiad ar-linell.

Dibyniaeth

Rydych yn cytuno i beidio â gweithredu neu ddibynnu ar unrhyw wybodaeth neu ddeunydd a gynhwysir ar wefan BaeColwyn.com, sy’n cael ei darparu gan BaeColwyn.com ar gyfer eich diddordeb, gwybodaeth a diddanwch ac arweiniad cyffredinol chi. Ni fydd BaeColwyn.com yn atebol ac y mae trwy hyn yn ymwrthod, cyn belled ag y mae’r gyfraith yn caniatáu, ag unrhyw atebolrwydd sy’n codi o’ch dibyniaeth chi ar wybodaeth o’r fath o unrhyw natur boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

Hawliau a Dim Cyfrinachedd

Yn amodol ar delerau dogfen Polisi Preifatrwydd BaeColwyn.com Online Cyf (sydd ar gael hefyd ar wefan BaeColwyn.com), bydd unrhyw wybodaeth neu ddata a drosglwyddwch neu a roddwch ar wefan BaeColwyn.com yn perthyn yn llwyr i BaeColwyn.com, ac fe all BaeColwyn.com ei defnyddio at unrhyw ddiben gan gynnwys heb gyfyngiad, ei hatgynhyrchu, ei datgelu i drydydd parti, ei darlledu, ei throsglwyddo, ei dangos neu ryw ddiben arall fel a fyn BaeColwyn.com yn ôl ei ddymuniad, ac mewn ystyriaeth am ganiatâd gan BaeColwyn.com ichi gael mynediad i’w wefan, ac am ystyriaethau da a gwerthfawr eraill yr ydych trwy hyn yn cydnabod eu bod yn ddigonol, rydych drwy hyn yn aseinio ar ffurf hawlfraint yn awr ac yn y dyfodol bob hawl o unrhyw fath yn ac i’r cyfryw ddeunydd drwy’r holl fyd am byth, gan gynnwys pob adnewyddiad o neu atodiad i’r cyfryw hawliau.

Indemniad

Rydych yn cytuno i indemnio a chadw BaeColwyn.com wedi’i indemnio rhag ac yn erbyn unrhyw a phob hawliad, iawndal, costau, treuliau ac atebolrwydd sy’n codi mewn unrhyw fodd o’ch mynediad i wefan BaeColwyn.com a’ch defnydd ohono heblaw yn unol â’r amodau a thelerau hyn.

Diwygiadau

Bydd BaeColwyn.com o bryd i’w gilydd yn ail-edrych ar yr amodau a thelerau hyn ac o bosib yn eu diwygio ac rydych yn cytuno i fod yn rhwym wrth ddiwygiadau o’r fath ac felly dylech ymweld â’r dudalen hon o bryd i’w gilydd i ddod yn gyfarwydd â newidiadau o’r fath.

Diweddaru

Nid yw BaeColwyn.com yn derbyn unrhyw rwymedigaeth i gynnal neu ddiweddaru gwefan BaeColwyn.com.

Cysylltiadau

Mae’r Cysylltiadau ar wefan BaeColwyn.com wedi eu graddio yn ôl cywirdeb y wybodaeth, diogelwch, dwyieithrwydd a hygyrchedd. Fodd bynnag, er y bydd BaeColwyn.com yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod unrhyw wefannau eraill y ceir cyswllt iddynt trwy wefan BaeColwyn.com yn briodol, nid yw BaeColwyn.com yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am gynnwys gwefannau o’r fath neu unrhyw wefannau y cysylltir â hwy o ganlyniad i gysylltiadau o wefan BaeColwyn.com.

Cyffredinol

Os dyfernir bod unrhyw un neu ragor o’r Telerau ac Amodau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu’n ddi-rym oherwydd cyfreithiau unrhyw wladwriaeth neu wlad lle y bwriedir iddynt fod yn weithredol, yna i’r graddau hynny y byddant yn anghyfreithlon, yn annilys neu’n ddi-rym cânt eu torri allan a’u dileu o’r telerau ac amodau hyn a bydd gweddill yr amodau a’r telerau yn parhau yn eu llawn grym ac yn parhau’n ymrwymiad.

Bydd yr Amodau a Thelerau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Lloegr a Chymru. Bydd unrhyw ddadleuon sy’n codi o’r rhain yn destun awdurdod llysoedd Lloegr a Chymru.

Os na dderbynnir yr Amodau a Thelerau hyn yn llawn ni chaniateir i chi gael mynediad i gynnwys y wefan hon ac felly dylech roi’r gorau i ddefnyddio’r wefan yn syth.

Polisi Preifatrwydd

Gweler y ddogfen polisi preifatrwydd sydd hefyd wedi ei chynnwys ar wefan BaeColwyn.com am wybodaeth am ein polisïau ar ddiogelu preifatrwydd pobl ifanc ar-linell.

Am unrhyw sylwadau ynglþn â gwefan BaeColwyn.com cysylltwch â post (malwen) abergelepost.com.

Credyd: seiliwyd y rhain ar ganllawiau © Canllaw Online Cyf. 2001 gyda diolch iddyn nhw.