Bae Colwyn o’r goedwig. Ffotograff o tua 1890

Dyma lun o Fae Colwyn o gyfeiriad y goedwig uwchben lleoliad Parc Eirias dwi’n credu. Tynnwyd y llun yn negawd olaf C19 a daw o gasgliad Llyfrgell Congress UDA. Caeau glas ble bydd tai.

Bae Colwyn o'r goedwig tua 1890 Libary of Congress UDA

Cyhoeddwyd yn Bae Colwyn, ffotograffiaeth | Gadael sylw

Dim lle yn y llety i Robert John Owens

Y 3ydd o Ragfyr yw Diwrnod Rhyngwladol Bobl Gydag Anableddau (United Nations International Day of Persons with Disabilities).

Hunangofiant Robert John Owens 1921-2006 o Glan Conwy yw Trwy’r Dyfroedd. Ysgrifennodd hanes ei fywyd ar gyfer cystadleuaeth y Fedal Ryddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978. Roedd Robert John yn ffrind i’n teulu ac roeddwn i wedi trafod cyhoeddi ei lyfr arlein gyda fo cyn iddo farw. Mae ei hanes yn unigryw am sawl reswm. Roedd ganddo cerebral palsy ac roedd teipio pob llythyren ar ei deipiadur yn gampwaith gan fod hyn yn beth mor anodd iddo. Mae hyn yn amlwg wrth i chi ddarllen y manuscript ar y wefan.

Ar yr un gwefan, mae’n nhad yn adrodd hanes Robat John yn gyrru ei gar tair-olwyn o Lansanffraid, Glan Conwy i Exeter er mwyn mynychu cwrs argraffu. Gan mai siwrnai o 300milltir oedd hwn a bod angen iddo osgoi priffyrdd, bu’n rhaid rhaid rhannu’r daith dros dridie:

  • “…aeth i Aberystwyth y diwrnod cyntaf ac aros mewn gwesty lle roedd wedi bwcio ystafell, a chael ei gyfarch ar stepan y drws gan y perchennog gyda’r geiriau: “If I’d known that you were handicapped I wouldn’t have accepted your booking.” Ond roedd gwaeth i ddod! Yr ail stop oedd yn Casnewydd lle yr oedd eto wedi bwcio ystafell, ond pan ddaeth wyneb yn wyneb a’r perchennog, a hwnnw’n sylweddoli ei fod yn anabl dywedodd wrtho nad oedd lle yn y llety a’r tro hwn, gan ei bod yn hwyr y nos, bu’n rhaid iddo ofyn cymorth yr heddlu.”

Bu Robert John yn ddylanwad mawr arnaf i ac rwy’n gobeithio y gwnewch chi fwynhau darllen hanes ei fywyd yn ei eiriau ei hun.

Robert John Owens yn 1991 yn dathlu ei benblwydd yn 70 oed.

Robert John Owens, Glan Conwy, yn 1991 yn dathlu ei benblwydd yn 70 oed.

Cyhoeddwyd yn Eisteddfod, Glan Conwy | Gadael sylw

Tywysog Madog – Cymro yn darganfod America?

Tywysog Madog ab Owain Gwynedd oedd y person Ewropeaidd cyntaf i ddarganfod tir America yn ôl yr hanes. A hynny ym 1170 – dau ganrif cyn Christopher Colombus.

Dechreuodd ei siwrnai ym mhorthladd Aber-Cerrik yn Llandrillo-yn-Rhos (Rhos on Sea). Wedi siwrne hir, glaniodd ym Mobile, Alabama.

Dyma luniau ohono gan A. S. Boyd o’r llyfr “Prince Madog Discoverer of America A Legendary Story” gan Joan Dane, cyhoeddwyd gan Everett, Boston Mass.

Cyhoeddwyd yn Llandrillo-yn-Rhos, chwedlau, hanes | Gadael sylw

Hywel Gwynfryn ar draeth Bae Colwyn

Bydd Hywel Gwynfryn, Radio Cymru, yn darlledu’n fyw ar y traeth ym Mae Colwyn ar Dydd Gwener Mehefin 10fed fel rhan o Daith y Saith Traeth. Bu ei gynhyrchydd mewn cysylltiad i ofyn am awgrymiadau – cymeriadau’r cylch – i gael sgwrs gyda Hywel ar y radio. Defnyddiwch y ffurflen Sylwadau isod os am awgrymu rhywun.

Cyhoeddwyd yn Bae Colwyn, cylch, lleol | Gadael sylw

Dyddiad i’ch dyddiadur: 28ain o Fai 2012

Dyna pryd fydd y torch Olympaidd yn cael ei gario rhwng Bangor a Chaer. Y gobaith yw y bydd y fflam yn pasio’n agos i Fae Colwyn. Cyhoeddir manylion taith y torch gan London 2012 mis nesaf.

Dyma ddolen i’r ffurflen er mwyn awgrymu person i gario’r torch, (cyn y 27ain o Fehefin 2011).

O.N. Oes na adran Gymraeg i wefan swyddogol y Gemau Olympaidd nesaf?

Cyhoeddwyd yn Bae Colwyn | Gadael sylw

Sinemâu Bae Colwyn

Bu Dad yn sôn yn ddiweddar am rai o sinemâu yr ardal:

Arcadia – to fflat mwyaf Ewrop yn ôl y sôn pan adeiladwyd ger yr hen swyddfa bost. Newidiodd enw’r sinema i The Wedgewood. Dwi’n cofio gwylio sawl ffilm James Bond yn y Wedgewood. Paentiwyd yr adeilad yn Wedgewood Blue.

Princess – nepell o’r Arcadia/Wedgewood. Sinema lai ger y farchnad dan do ble roeddwn i’n arfer prynu monkey boots yn y 70au. Boi o Glan Conwy oedd piau’r hen farchnad medde Dad.

Cosy – wrth y bus stop ger y llyfrgell Bae Colwyn. Am enw braf i sinema.

Rialto – roedd Dad yn cofio’r enw ond fawr mwy am y sinema yma.

Odeon – gyferbyn ag Eglwys St John’s. Newidiodd ei enw i’r Astra. Mae ‘na ffotograffau ardderchog o’r sinema hon ar wefan English Heritage. Am resymau hawlfraint, does dim modd dangos y rhain ar y wefan hon, ond dyma sgets frysiog gen i o’r hen Astra. Roedd hi’n eicon Art Deco ac mae’n golled i Fae Colwyn. Fflatiau sydd ar y safle yma heddiw.

sgets o'r Astra - Odeon

Roedd ‘na sinema yn Hen Golwyn hefyd ond nid oedd Dad yn cofio’i enw.
Am ei fod yn mynd i’r ysgol yn Llanrwst, arferai Dad fyn i Luxor Llanrwst i wylio ffilmiau yn aml.Dywedodd ei fod wedi methu’r bys olaf adre sawl gwaith ac wedi gorfod cerdded adra pob cam o Lanrwst i Glan Conwy.

Cyhoeddwyd yn Bae Colwyn, Hen Golwyn, cylch, dyfrliw, lleol | Gadael sylw

Gwegamera

Mae’n braf yng Nghonwy heddiw, yn ôl y ddelwedd o wegamera teamdolly.co.uk Pete Macmillen. Diolch i Pete am ganiatáu i  ni arddangos lluniau o’i wegamera yma ar BaeColwyn.com. Mae ‘n linc cyson i’r llun ar ben y dudalen hon.

Conwy

Cyhoeddwyd yn Bae Colwyn | Gadael sylw

Sut i greu blog lleol Cymraeg

Mae Carl Morris newydd gyhoeddi tudalen ar Hedyn sy’n egluro sut i sefydlu blog lleol fel BaeColwyn.com. Bues i yn Talk About Local ddydd Sadwrn a bu trafodaeth ddwys am ein traddodiad Papurau Bro. Yn ogystal â blogiau lleol, oni fyddai’n braf gweld mwy o fersiynnau arlein o’r Papurau Bro hyn? Un ffigwr welais i am amcan nifer darllenwyr (nid gwerthiant) holl Bapurau Bro Cymru oedd 70k. (c/f  Western Mail 33k, Daily Post ?k, South Wales Echo 50k, South Wales Argus 30k, Evening Post 54k, Golwg 12k, Cymru 4k -Ffynonellau: rhai yn ABC, eraill amrywiol) 
Diolch i Carl am gyhoeddi’r cyfarwyddiadau cam-wrth-gam.

Cyhoeddwyd yn Cymraeg, lleol | 2 Sylw

Smorgasbord ym Mharc Eirias

Rhywbryd yn fy mhlentyndod, mae gen i gof fod Mam a Dad wedi mynd a ni am ginio Sul i’r Four Oaks ym Mharc Eirias, Bae Colwyn. Roedd na ‘menu’ newydd: Smörgåsbord; bwffe o Sweden; talu un pris a bwyta llond eich bol. Raedd ‘na grafadlacs, bara rhyg, penwaig wedi biclo, ayb

Mae’r Four Oaks wedi diflannu bellach, ond dwi dal i gofio’r cinio Sul yna nol yn y 70au.

Four Oaks, Parc Eirias, Bae Colwyn (chwith). Sgets gan Harry Gee.

Four Oaks, Parc Eirias, Bae Colwyn (chwith). Sgets gan Harry Gee.

Cyhoeddwyd yn Bae Colwyn, bwyd | Gadael sylw

Mods 1982

Dyma fideo o 1982 o rali sgwters ym Mae Colwyn gan Rob2Stroke.

Cyhoeddwyd yn Bae Colwyn, fideo | Gadael sylw