Categori: Bae Colwyn
Llun paent olew gan Robin Dudley Bailey
Llun paent olew 1979 gan Robin Dudley Bailey o heulwen ar draeth Bae Colwyn yn y Gwanwyn.
Ganwyd Bailey yn Didsbury, 1931 a dywedodd am Gymru:
“My subject matter is inspired greatly by the time I spent living in Wales. Beach scenes with big open skies, landscapes and the docks at Cardiff and Swansea have been the source for many paintings and drawings. My early years in Manchester have also had a great influence on my work and include many paintings and drawings of children, bonfires, cricket and football matches around the back streets of Salford, Old Traffford and Moss Side.”
Dyfrliw o’r pier a’r traeth ym Mae Colwyn gan Hannaford tua 1885
Mae pier Bae Colwyn wedi mynd i ebargofiant bellach, felly dyma olwg yn ol ar oes aur y Promenade, gyda chwch hwylio ar y tywod. Hannaford yw’r artist, tua 1885 paentwyd y llun.
Sit & Stew Bae Colwyn
Cynhelir cyfarfodydd agored Sit & Stew amser cinio dydd Mercher yn Eglwys y Bedyddwyr, Price’s Drive, Bae Colwyn.
Syniad 428 Training yw’r sesiynau hyn. Cychwynwyd ym Mhensarn, Abergele.
Cyfarfod cymunedol agored, gyda chroeso i bawb, yw Sit & Stew neu Sitanstew. Eglurodd Scott Jenkinson o 428: “when visiting one of the local charity shops and telling the manager my problem, a voice came from nowhere shouting, “Stew! We need stew and somewhere to sit in the warm”. The head of a local lady named Paula popped up from behind a pile of second hand shoes.”
Yn ogystal a bwyd, mae’n gyfle i rannu syniadau, cyfarfod trugolion eraill yr ardal ac i gael gwybodaeth defnyddiol am lety, cymorth gydag ymrwymiad i gyffuriau ac alcohol, ac ambell beth arall.
Cyfarfod cymunedol Buddsoddi Lleol BCT Invest Local ardal Glyn Bae Colwyn
Cynhelir cyfarfod nesaf Buddsoddi’n Lleol BCT Invest Local, Ward Glyn, Bae Colwyn, ar nos Fawrth 27 Chwefror 2018 am 18:00 yn mwyty cyri Abdul Khan’s Clock House Indian, ger Theatr Colwyn. Mae na groeso i bawb sydd am weld ardal canol Bae Colwyn yn cael ei ddatblygu.
Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, Building Communities Trust a Bae Colwyn
Heddiw, yng Nganolfan yr Urdd, Caerdydd, mae Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau – Building Communities Trust – (BCT) yn cyfarfod er mwyn ceisio llunio maniffesto economi lleol newydd.
Y man cychwyn yw drafft sy’n canolbwyntio ar economi i bobl lleol drwy creu cyfoeth yn lleol, adeiladu cwmniau bychain lleol, Angorau (ysbyty, coleg, cyflogwr mawr), gofal cymdeithasol a defnydd cynnaliadwy o asedau ac adnoddau naturiol.
Mae ardal Glyn, ganol Bae Colwyn, yn un o’r 13 ardal. Ac yn cynrychioli Glyn, Bae Colwyn heddiw yng Nghaerdydd mae Chris Hemmings o’r dref.
Cadwch golwg ar wefan BCT i weld y Maniffesto pan mae’n cael ei gyhoeddi ar wefan BCT.
Llawr y Pentre, Bae Colwyn (John Thomas c1875)
Golygfa o dai ym Mae Colwyn. Mae nant yn rhedeg islaw’r tai; mae rhai gwragedd yn sefyll wrth eu drysau a gellir gweld dillad yn sychu ar y leiniau dillad. Tynnwyd y ffotograff gan John Thomas.
o https://www.casgliadywerin.cymru/items/1512
MANYLION HAWLFRAINT
© Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2016
MANYLION TRWYDDEDU
Reproduced by permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru
All Rights Reserved.
Crëwyd gan: Thomas, John
Perchennog: The National Library of Wales
Gerddi’r Frenhines, Bae Colwyn
Dyma lun hafaidd braf (o’r 1960/70au, mae’n debyg) o Queens Gardens Bae Colwyn
Sesiynau Arloesi Er Mwyn Arbed yn Llanrwst
Os oes gennych syniad all wella pethau i unigolion yng ngogledd Cymru a gall arbed arian, falle bydd gennych ddiddordeb yn y gyfres yma o weithdai Arloesi Er Mwyn Arbed am ddim yng Nglasdir, Llanrwst, dros yr wythnosau nesaf.
Dyma’r manylion: https://www.eventbrite.co.uk/o/y-lab-13007087697
Heol Abergele, Bae Colwyn c1904
MANYLION HAWLFRAINT
© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
MANYLION TRWYDDEDU
Creative Archive License
Crëwyd gan: Unknown
Perchennog: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Heol Mostyn, Bae Colwyn, tua 1908
MANYLION HAWLFRAINT
© Llyfrgell Genedlaethol Cymru
MANYLION TRWYDDEDU
Creative Archive License
Crëwyd gan: Unknown
Perchennog: Llyfrgell Genedlaethol Cymru