Posted in Bae Colwyn Conwy tech

Sesiynau Arloesi Er Mwyn Arbed yn Llanrwst

Os oes gennych syniad all wella pethau i unigolion yng ngogledd Cymru a gall arbed arian, falle bydd gennych ddiddordeb yn y gyfres yma o weithdai Arloesi Er Mwyn Arbed am ddim yng Nglasdir, Llanrwst, dros yr wythnosau nesaf.
Dyma’r manylion: https://www.eventbrite.co.uk/o/y-lab-13007087697

 

Posted in cylch lleol tech

Mapiau rhyngweithiol Cymraeg

Dim ond mapiau gydag enwau Saesneg sy’n hawdd mewnosod ar wefannau lleol Cymraeg ar hyn o bryd. Ond mae gallu dangos enwau llefydd Cymraeg ar fapiau rhyngweithiol yn bwysig dros ben.

Dyma newyddion am gam i’r cyfeirad cywir.

Mae ap mapiau Windows 8 Microsoft yn dangos dipyn go lew o enwau llefydd Cymraeg arnyn nhw wrth osod iaith Win8 i Gymraeg. Sbïwch ar hyn:


mapiau-app-bing

Mae’n ddiddorol i gymharu map ap Windows 8 Bing gyda’r un ardal ar Google maps. Dyma ran o Aberystwyth:

Aberystwyth ar fap rhyngweithiol Google i'r we: e.e. Queen Street
Aberystwyth ar fap rhyngweithiol Google i’r we: e.e. Queen Street


Bing CY
Aberystwyth ar ap Mapiau Bing Cymraeg: e.e. Morfa Mawr. Nodwch mai dim ond ar yr ap mae’r Gymraeg ar gael; nid ar fapiau Bing i’r we


Hyd y gwn i, fedrwch chi ddim mewnosod mapiau o ap mapiau Bing, ond mae’r ffaith fod yna fap rhyngweithio gydag enwau llefydd Cymraeg arno yn codi calon golygydd gwefan lleol BaeColwyn.com

O.N. Mae Google yn diweddaru eu mapiau nhw cyn hir medde’r erthygl yma o 19 Chwefror 2014.


Erthygl o Chwefror 2014. Gall pethau fod wedi newid erbyn i chi ddarllen hwn, hei lwc.

Posted in Cymraeg tech

Cyflwyniad i gynhadledd EduWiki 2013

Daeth EduWiki 2013 i Gymru – Future Inn, Caerdydd. Cefais wahoddiad i son am strategaeth technoleg iaith Cymraeg Llywodraeth Cymru. Dyma’r sleidiau o’m cyflwyniad. Does gan yr erthygl hon fawr i’w wneud gyda Bae Colwyn ond y gobaith y bydd cynyddu’r nifer o wefannau a blogiau Cymraeg fel yr un yma yn help wrth godi proffil yr iaith Gymraeg yn ecosystem y we. Ac mae’r nifer o erthyglau Cymraeg ar Wikipedia yn allweddol, fel y gwelwch yn y cyflwyniad…

 

 

Dyma fideo o’r digwyddiad

Posted in lleol tech

Chwe uchelgais ar-lein i’r iaith Gymraeg

1. Hidl iaith wrth bori a chwilio rhestri o lyfrau, elyfrau, cerddoriaeth, ayb mewn siopau ar-lein 

2. Y Gymraeg yn ‘iaith chwylio’

3. Cynnig yr opsiwn o’r Gymraeg wrth fewnlwytho meddalwedd pan mae’r iaith ar gael  (gweler traethawd Jeremy Evas ar Nudge Theory)

4. Cynnig cymorth neu rhoi pwysau ar gwmniau pan nad oes mynediad i’r Gymraeg.

5. Gwersi ac adnoddau codio drwy gyfrwng y Gymraeg.

6. Mwy o wefannau Cymraeg.

Nodiadau o’m cyflwyniad yn Hacio’r Iaith  #haciaith 2013 http://haciaith.com/

Beth hoffech chi ei weld?

Posted in tech

Adeiladu

Er nad yw’r Cofnodion wedi dechrau o ddifri eto, os edrychwch chi ar y stribed du uwchben, mae ‘na fwy o Dudalennau wedi’u hychwanegu i’r blog.

Newyddion – cymysgedd o ffrydiau BBC a Golwg360
Tywydd – rhagolygon gan y Met Office yn Gymraeg
Cymuned – map a ffrwd o sylwadau a chwynion gan drigolion ardal Bae Colwyn. Dwi’n gadael y sylwadau yn yr iaith wreiddiol am rŵan
Dolenni – wedi adio ambell un; mwy i ddod
Ynghylch – dodrefn yr ‘About page’ wedi’i osod. Nes i ystyried ail-enwi’r adran hon i ‘Amdan’. Hefyd, enw arfaethedig ar yr adran gwerthu yw ‘Fi Gyn’. (Jôc oedd y ddau beth ola’ na).

Ar ochr dde’r dudalen mae ‘na ffrwd o Umap – Twitter Cymraeg. Diolch i Rhodri ap Dyfrig @nwdls am gydweithio gyda’r awduron i greu fersiwn CY o Umap. Hoffwn i weithio ar dwmffat i roi sylw i drydar am ‘colwyn’.

Os oes ‘na unrhyw un arall sydd wrthi’n datblygu gwefan heipr neu heipyr lleol Cymraeg fel hyn, pob lwc a ma’ ‘na groeso i chi gysylltu.

Canolfan Siopa Golygfa'r Bae
Canolfan Siopa Golygfa'r Bae - BayView