Mis: Tachwedd 2013
Gwefan dwyieithog newydd am dreftadaeth Bae Colwyn
Wrth ymchilio hanes y dref, nes i ddarganfod gwefan dwyieithog Treftadaeth Bae Colwyn / Colwyn Bay Heritage sy’n llawn erthyglau, lluniau a hanesion diddorol am y dref.
Mae aelodau o’r Grŵp Treftadaeth, ynghyd â gwirfoddolwyr o bob oedran, wedi bod yn brysur iawn yn creu y safle a hefyd yn recordio cyfweliadau gyda phobl leol, a rhai sydd wedi treulio amser ym Mae Colwyn ar wyliau neu’n gweithio, sydd oll wedi rhannu eu hatgofion am y dref.
Mae na orielau o luniau, dolenni, clipiau sain, ayb. Gwefan difyr dros ben.
Tîm Rygbi Tonga ym Mae Colwyn?
Mae hwn yn dipyn o ddirgelwch i mi, achos dwi di fethu ffeindio unrhyw sôn ar y we am hyn….
Mae gen i gof o wylio gem rygbi rhwng Tonga a thîm rygbi Gogledd Cymru ar faes Ysgol Rydal gyda nhad ar ddechrau’r 1970au. Ges i lofnodion aelodau’r tîm a Miss Tonga a oedd yn teithio gyda’r tîm. Nes i ddim cadw’r llyfr yma, gwaetha’r modd.
Does dim sôn am daith Tonga i Gymru adeg hynny ar wefan Undeb Rygbi Cymru. Falch am unrhyw wybodaeth. Diolch.
Cyflwyniad i gynhadledd EduWiki 2013
Daeth EduWiki 2013 i Gymru – Future Inn, Caerdydd. Cefais wahoddiad i son am strategaeth technoleg iaith Cymraeg Llywodraeth Cymru. Dyma’r sleidiau o’m cyflwyniad. Does gan yr erthygl hon fawr i’w wneud gyda Bae Colwyn ond y gobaith y bydd cynyddu’r nifer o wefannau a blogiau Cymraeg fel yr un yma yn help wrth godi proffil yr iaith Gymraeg yn ecosystem y we. Ac mae’r nifer o erthyglau Cymraeg ar Wikipedia yn allweddol, fel y gwelwch yn y cyflwyniad…
Dyma fideo o’r digwyddiad