Posted in Bae Colwyn

Cyfarfod cymunedol Buddsoddi Lleol BCT Invest Local ardal Glyn Bae Colwyn

Cynhelir cyfarfod nesaf Buddsoddi’n Lleol BCT Invest Local, Ward  Glyn, Bae Colwyn, ar nos Fawrth 27 Chwefror 2018 am 18:00 yn mwyty cyri Abdul Khan’s Clock House Indian, ger Theatr Colwyn. Mae na groeso i bawb sydd am weld ardal canol Bae Colwyn yn cael ei ddatblygu.

Canolfan Siopa Golygfa'r Bae
Canolfan Siopa Golygfa’r Bae – BayView

 

 

Posted in Bae Colwyn cylch Hen Golwyn

Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, Building Communities Trust a Bae Colwyn

Heddiw, yng Nganolfan yr Urdd, Caerdydd, mae Ymddiriedolaeth Adeiladu  Cymunedau – Building Communities Trust – (BCT) yn cyfarfod er mwyn ceisio llunio maniffesto economi lleol newydd.

Y man cychwyn yw drafft sy’n canolbwyntio ar economi i bobl lleol drwy creu cyfoeth yn lleol, adeiladu cwmniau bychain lleol, Angorau (ysbyty, coleg, cyflogwr mawr), gofal cymdeithasol a defnydd cynnaliadwy o asedau ac adnoddau naturiol.

Debyniodd BCT £13miliwn o’r Loteri Fawr er mwyn gallu rhoi £1milliwn yr un i 13 o ardaloedd yng Nghymru.

Mae ardal Glyn, ganol Bae Colwyn, yn un o’r 13 ardal. Ac yn cynrychioli Glyn, Bae Colwyn heddiw yng Nghaerdydd mae Chris Hemmings o’r dref.

Chris Hemmings o Fae Colwyn yn trafod maniffesto BCT

Cadwch golwg ar wefan BCT i weld y Maniffesto pan mae’n cael ei gyhoeddi ar wefan BCT.