Ynghylch

Yn 2010, nes i lansio gwefan AbergelePost.com. Y bwriad oedd iddi fod yn ddwy ieithog. Bu’r sialens dechnegol yn drech na fi. Wedyn yn Haciaith2011, bu trafodaeth am ba mor bwysig yw dwyieithrwydd mewn blogio; onid yw blog uniaith Cymraeg yn OK…?

Wedyn, darllenais i hwn a meddwl: beth am drio arbrawf lleol am Fae Colwyn a’r cylch? Bydd BaeColwyn.com yn wefan am hanes yn hytrach na newyddion, ond mi fydd yn lleol – falle hyd yn oed yn heipyr-lleol – ac mi fydd yn Gymraeg.

Dwi’n ddiolchgar i’r gymuned sy’n trosi rhyngwynebau fel un WordPress i’r Gymraeg. Hebddyn nhw fydda hyn oll lot yn anoddach.

Prosiect personol yw hwn; does dim cysylltiad gyda’r gwaith.

Joiwch a danfonwch adborth ac mae ‘na groeso i chi awgrymu cynnwys, Gareth Morlais 5 Chwefror 2011.

———————————-

Ychwanegwyd Gorffennaf 2015:

Mae’r wefan hon yn un o rwydwaith o wefannau traleol Cymreig einiog.com

http://fairwaterpost.co.uk

http://llandaffnorthpost.co.uk

http://llandafpost.co.uk

http://radyrpost.co.uk

http://abergelepost.com

http://baecolwyn.com

Gwefan Cymraeg yw BaeColwyn.com; groesewir erthyglau Cymraeg a Saesneg ar bob un o’r lleill.

User submissions via the Contact link are welcome.
BaeColwyn.com is a Welsh-language site.

Gareth Morlais.

2 Ymateb i Ynghylch

  1. Dywedodd Dawn Knight :

    Rydyn ni’n ysgrifennu atoch chi achos bod ni’n datblygu prosiect newydd pwysig ynglŷn â’r iaith Gymraeg a hoffen ni gael eich help. O ystyried bod y Gymraeg yn un o ddwy iaith swyddogol y wlad, mae’n hanfodol cefnogi dyfodol yr iaith fel cyfrwng cyfathrebu a diwylliant bywiog. Fel ieithyddion, rydyn ni eisiau datblygu ‘corpws’ o’r Gymraeg i gyd-fynd â’r rhai sydd eisoes wedi cael eu hadeiladu ar gyfer Saesneg a llawer o ieithoedd eraill o gwmpas y byd. Mae corpws yn gasgliad o destunau, ar lafar ac yn ysgrifenedig, sy’n rhoi ‘cliplun’ o’r iaith. Mae’r corpora yn Saesneg wedi cael eu defnyddio fel sail ar gyfer llawer o eiriaduron mawr ac maen nhw’n cael eu defnyddio’n eang ar gyfer ymchwil i lawer o agweddau ar eirfa, gramadeg a defnydd o’r iaith Saesneg.

    Mae’n hanfodol o ran dyfodol y Gymraeg fod ganddi gorpws mawr sy’n gallu ei ‘dal’ hi fel iaith fyw. O gael cofnod o’r Gymraeg fel mae hi ‘go iawn’, gall siaradwyr, athrawon a llunwyr polisi ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o ba amrywiaethau o’r iaith allai gael eu defnyddio mewn cyd-destunau llafar, dogfennau ysgrifenedig, dosbarthiadau i ddysgwyr a gwerslyfrau ac yn y blaen.

    Bydd llawer o gydrannau gan y corpws rydyn ni’n ei gynllunio, o lenyddiaeth a phapurau newydd, i sgyrsiau ar lafar, gwefannau a dulliau cyfoes eraill o gyfathrebu. Ac rydyn ni’n cysylltu â chi ynglŷn â’r elfen olaf yma.

    Ar gyfer yr elfen yn y corpws sy’n ymwneud â thestunau electronig, rydyn ni’n mynd i ddefnyddio’r testunau sydd i’w cael mewn blogiau, trydar, wikis, safleoedd rhwydweithio cymdeithasol a gwefannau Cymraeg ac rydych chi’n awdur testunau yr hoffen ni eu cynnwys. Rydyn ni’n gofyn am eich caniatâd i’w defnyddio achos y gall testunau sy’n mynd i mewn i gorpws fod yno am amser hir iawn – yn hirach nag y gallech fod wedi’i ragdybio pan wnaethoch chi eu postio neu eu hanfon.

    Y nod yw i’r corpws fod ar gael i bawb fel adnodd ar-lein a gallai gael ei ddefnyddio ar gyfer deunyddiau addysgu a phrofi, ymchwil i sut mae iaith yn newid neu’n wahanol mewn cyd-destunau gwahanol o ran ei defnydd ac yn y blaen. Gall darnau bach gael eu dyfynnu mewn cyhoeddiadau academaidd ac addysgol.

    Felly mae ond yn deg i ni ofyn am eich cytundeb cyn i ni storio eich geiriau a’u defnyddio yn y corpws.

    Fydd ddim modd eich adnabod chi, o’ch testun, fel awdur achos er mwyn diogelu eidentiti cyfranwyr i’r corpws a’r unigolion sy’n cael eu crybwyll ynddo, bydd yr holl gynnwys yn anhysbys ac yn ddienw. Caiff enwau cyntaf (gan gynnwys ID Trydar ac ati) a ffugenwau hawdd eu nabod eu newid i [EnwX], gydag ‘X’ yn cynrychioli cod rhif unigryw a gaiff ei fynegrifo yn ein ffeiliau cyfrinachol ein hunain sydd wedi’u diogelu â chyfrinair. Hefyd, dylen ni dynnu eich sylw at y ffaith na fydd eich geiriau’n cael eu labelu yn y corpws fel ‘cywir’ neu ‘anghywir’ ac os ydych chi’n tueddu i gymysgu, er enghraifft, Saesneg gyda’r Gymraeg, bydd y cymysgu yma’n aros yn y corpws. Mae corpws yn cynnwys iaith go iawn fel mae’n cael ei defnyddio – nid fersiwn lân sydd wedi cael ei thacluso. Wrth gwrs, fydd athrawon sy’n ei ddefnyddio ddim yn argymell o angenrheidrwydd fod eu myfyrwyr yn copïo’r holl nodweddion gyda’r un faint o frwdfrydedd – ond mater iddyn nhw yw hynny. Yn y bôn, mae’r corpws yn cyflwyno’r wybodaeth, fel set o luniau o fywyd go iawn yng Nghymru, i eraill ei hastudio.

    Dim ond eich geiriau chi, ac nid geiriau gan bobl sy’n postio ar eich safle, gaiff eu cynnwys yn y corpws hwn. Hefyd, byddwn ni ond yn defnyddio data oddi wrth safleoedd mynediad agored (yn hytrach na rhai â diogewlch cyfrinair) a dim ond deunydd wedi’i bostio/ edafedd trafod gan bobl sydd wedi rhoi caniatâd i ni wneud.
    Hoffen ni i chi gadarnhau a ydych chi’n rhoi caniatâd i ni – neu beidio – i ddefnyddio cynnwys eich deunydd yn y corpws yma. A wnewch chi hynny trwy ymateb i’r ebost yma? Os ydych chi eisiau gwybodaeth bellach, cysylltwch â corpwscymraeg@gmail.com

    Dylech nodi hefyd bod ni ond yn bwriadu casglu testunau gan bobl sy’n 18 oed neu’n hŷn. Os ydych chi’n ifancach, mae’n bwysig i chi anfon ebost aton ni. Mae’n bosibl gallwn ni ddefnyddio eich testunau o hyd (ac yn wir, hoffen ni wneud hynny) ond mae ffurflen ganiatâd y mae’n rhaid ei llofnodi yn gyntaf.

    Cofion cynnes,
    Tîm y Corpws Cenedlaethol Cymraeg
    Steve Morris, Prifysgol Abertawe: S.Morris@abertawe.ac.uk
    Dawn Knight, Prifysgol Newcastle: Dawn.Knight@ncl.ac.uk
    Tess Fitzpatrick, Prifysgol Caerdydd: fitzpatrickt@caerdydd.ac.uk
    __________________________________________________________

    We are writing to you because we are developing an important new project relating to the Welsh language, and we would like your help. Given that Welsh is one of the two official languages of the country, it is vital to support its future as a vibrant medium of communication and of culture. As linguists, we want to develop a ‘corpus’ of the Welsh language to match the ones already constructed for English and many other languages worldwide. A corpus is a collection of texts, spoken and written, that provide a snapshot of the language. The English language corpora have been used as the basis for several major dictionaries, and they are widely used for research into many subtle aspects of the vocabulary, grammar and usage of English.

    It is vital to the future of Welsh that it has a major corpus that can capture it as a living language. By having a record of Welsh as it really is, speakers, teachers and policy makers can develop a richer understanding of which varieties might be used in spoken contexts, written documents, in learners’ classes and textbooks, and so on.

    The corpus we are planning will have many components, from literature and newspapers, through spoken conversation, to websites and other modern methods of communication. And it is in this last regard that we are contacting you.

    For the component of the corpus that draws on electronic text, we are going to use the texts found in Welsh language blogs, tweets, wikis, social networking sites and websites, and you are an author of texts that we wish to include. We are asking your permission to use these because texts going into a corpus might be there for a very long time—longer than you originally envisaged when you posted or sent them.

    The intention is for the corpus to be available to everyone as an on-line resource, and it might be used for teaching and testing materials, research into how language changes or is different in different contexts of use, and so on. Short extracts might be quoted in academic and educational publications.

    So it seems only fair that we ask for your agreement before we store your words and use them in the corpus.

    You as an author will not be identifiable from your text, because to protect the identity of contributors to the corpus and individuals mentioned within it, all content will be fully anonymised. First names (including Twitter IDs etc.) and easily identifiable nicknames will be changed to [NameX], with ‘X’ representing a unique number code which is indexed in our own confidential files, which are password protected. We should also point out that your words will not be labelled in the corpus as ‘correct’ or ‘incorrect’ and if you tend, for instance, to mix English in with your Welsh, this mixture will remain in the corpus. A corpus contains the real language as it is used, not a cleaned up version. Teachers using it will not, of course, necessarily recommend to their students that they copy all features with equal enthusiasm—but that’s for them to decide. The corpus simply presents the information, like a set of photos of real life in Wales, for others to study.

    Only your words, and not words from people posting to your site, will be included in this corpus. We will also only include data from open access sites (rather than password protected ones) and only postings/ discussion threads from people have provided us with their permission to do so.

    We would like you to confirm whether or not you give us permission to use your content in this corpus. Please do this by responding to this email. If you would like any further information, please contact corpwscymraeg@gmail.com

    Note also, that we are only intending to collect texts from people who are 18 years or older. If you are younger, it’s important that you email us. We may still be able to use your texts (in fact we’d like to) but there is a permission form that must be signed first.

    Kind regards,
    The Corpws Cenedlaethol Cymraeg team
    Steve Morris, Swansea University: S.Morris@Swansea.ac.uk
    Dawn Knight, Newcastle University: Dawn.Knight@ncl.ac.uk
    Tess Fitzpatrick, Cardiff University: fitzpatrickt@cardiff.ac.uk

  2. Dywedodd Marc Williams :

    Digwydd taro ar y gwefan yma heddiw.
    Braf gweld y Gymraeg yn cael ei hyrwyddo ym Mae Colwyn.

    Fel un a magwyd yn y dref, ond sydd bellach yn byw yng Ngaherdydd, buaswn yn falch o allu gyfrannu ychydig o wybodaeth am hanes y dref. Mae gen i kawer o wybodaeth am gapel y teulu – TABERNACL, Bae Colwyn, sydd bellach wedi cau.
    Bu’r teulu yn byw yn y Dingle am flynyddoedd lawer ac mae gen i luniau o’r rhan yna o’r dref yn ogystal.

    Rhowch wybod os hoffech luniau / pytiau o wybodateh!

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *