Categori: Glan Conwy
Hel Calennig
Blwyddyn Newydd Dda i chi ac i bawb sydd yn y ty….
Dyna’r cerdd hel calennig enwocaf yng Nghymru am wn i. Ond ches i hanes hel calennig ardal Glan Conwy cyn yr Ail Rhyfel Byd gan fy nhad.
Arferai John Emrys Williams godi’n gynnar achos yr ymwelydd cyntaf oedd fel arfer yn cael yr anrheg orau. Roedd un trigolyn arfer rhoi hanner coron iddo. Roedd hyn yn ffortiwn. Ond ateb eraill i’r dymuniad Blwyddyn Newydd Dda oedd:
“Yr un fath i chi a llawer iawn ohonyn nhw”
Hoff gerdd Calenig Dad oedd:
Fy nghlennig, fy nghlennig i’r Christmas Bocs
Mam yn ei sgidie a dad yn ei glocs.
Sul y Cofio – o Glan Conwy i’r Ail Ryfel Byd
A hithau’n Sul y Cofio, dyma stori fy Nhaid, a oedd yn ‘signalman’ ar fwrdd HMS Diadem yn ystod yr Ail Rhyfel Byd.
Un o Glan Conwy oedd John Emrys Williams. Gadawodd ei wraig Mary a’i blant Hugh, John a Glenys dros dro i fynd i’r Llynges yn 1943.
Er mai Cymraeg oedd iaith ei aelwyd, yn Saesneg mae dyddiadur rhyfel Taid. Mae’n bosib mai er mwyn bod yn agored gyda’r bobl oedd falle yn sensro pethau fel yna oedd hyn. Neu efallai mai yn Saesneg oedd Taid wedi cael ei ddysgu i sgwennu yn yr ysgol.
Dyn ni’n cofio –fel plant – straeon Taid yn nyfroedd yr Arctic yn boeri ar fwrdd y llong a’r poer yn caledi fel marblen fach cyn cyrraedd ei draed. Roedd hi mor oer.
Ond soniodd Taid ddim wrtha’i tra’n fyw am ei ran yn Operation Neptune i baratoi i Normandy Landings D-Day. Ac roedd yn rhyfedd i ddarllen am ei ddewrder wrth i’r ‘gliders’ Almaeneg hedfan yn isel dros ei ben.
Bu farw Taid ym 1997.
Meddwi a Band of Hope
Dyma recordiad 1959 o Roger Edwards, Glan Conwy. O feddwl mai yn ei 80au roedd Mr Edwards pan recordiodd nhad hwn yn ’59, mae’n debyg mai tua 1880 fe’i ganwyd. Recordiodd dad dau ril o dap gyda Mr Edwards ac mae’n hudolus gallu gwrando ar atgofion dyn a magwyd yn y pentre yn ystod y C19eg. Dyma Mr Edwards yn son am y Band of Hope a ffyrnigrwydd plismon y pentre tuag at bobl oedd wedi meddwi:
Roger Edwards, Glan Conwy 1959 Band of Hope ac yfed yn Glan Conwy by aberth
Dim lle yn y llety i Robert John Owens
Y 3ydd o Ragfyr yw Diwrnod Rhyngwladol Bobl Gydag Anableddau (United Nations International Day of Persons with Disabilities).
Hunangofiant Robert John Owens 1921-2006 o Glan Conwy yw Trwy’r Dyfroedd. Ysgrifennodd hanes ei fywyd ar gyfer cystadleuaeth y Fedal Ryddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978. Roedd Robert John yn ffrind i’n teulu ac roeddwn i wedi trafod cyhoeddi ei lyfr arlein gyda fo cyn iddo farw. Mae ei hanes yn unigryw am sawl reswm. Roedd ganddo cerebral palsy ac roedd teipio pob llythyren ar ei deipiadur yn gampwaith gan fod hyn yn beth mor anodd iddo. Mae hyn yn amlwg wrth i chi ddarllen y manuscript ar y wefan.
Ar yr un gwefan, mae’n nhad yn adrodd hanes Robat John yn gyrru ei gar tair-olwyn o Lansanffraid, Glan Conwy i Exeter er mwyn mynychu cwrs argraffu. Gan mai siwrnai o 300milltir oedd hwn a bod angen iddo osgoi priffyrdd, bu’n rhaid rhaid rhannu’r daith dros dridie:
- “…aeth i Aberystwyth y diwrnod cyntaf ac aros mewn gwesty lle roedd wedi bwcio ystafell, a chael ei gyfarch ar stepan y drws gan y perchennog gyda’r geiriau: “If I’d known that you were handicapped I wouldn’t have accepted your booking.” Ond roedd gwaeth i ddod! Yr ail stop oedd yn Casnewydd lle yr oedd eto wedi bwcio ystafell, ond pan ddaeth wyneb yn wyneb a’r perchennog, a hwnnw’n sylweddoli ei fod yn anabl dywedodd wrtho nad oedd lle yn y llety a’r tro hwn, gan ei bod yn hwyr y nos, bu’n rhaid iddo ofyn cymorth yr heddlu.”
Bu Robert John yn ddylanwad mawr arnaf i ac rwy’n gobeithio y gwnewch chi fwynhau darllen hanes ei fywyd yn ei eiriau ei hun.