Categori: hanes
Hel Calennig
Blwyddyn Newydd Dda i chi ac i bawb sydd yn y ty….
Dyna’r cerdd hel calennig enwocaf yng Nghymru am wn i. Ond ches i hanes hel calennig ardal Glan Conwy cyn yr Ail Rhyfel Byd gan fy nhad.
Arferai John Emrys Williams godi’n gynnar achos yr ymwelydd cyntaf oedd fel arfer yn cael yr anrheg orau. Roedd un trigolyn arfer rhoi hanner coron iddo. Roedd hyn yn ffortiwn. Ond ateb eraill i’r dymuniad Blwyddyn Newydd Dda oedd:
“Yr un fath i chi a llawer iawn ohonyn nhw”
Hoff gerdd Calenig Dad oedd:
Fy nghlennig, fy nghlennig i’r Christmas Bocs
Mam yn ei sgidie a dad yn ei glocs.
Gwefan dwyieithog newydd am dreftadaeth Bae Colwyn
Wrth ymchilio hanes y dref, nes i ddarganfod gwefan dwyieithog Treftadaeth Bae Colwyn / Colwyn Bay Heritage sy’n llawn erthyglau, lluniau a hanesion diddorol am y dref.
Mae aelodau o’r Grŵp Treftadaeth, ynghyd â gwirfoddolwyr o bob oedran, wedi bod yn brysur iawn yn creu y safle a hefyd yn recordio cyfweliadau gyda phobl leol, a rhai sydd wedi treulio amser ym Mae Colwyn ar wyliau neu’n gweithio, sydd oll wedi rhannu eu hatgofion am y dref.
Mae na orielau o luniau, dolenni, clipiau sain, ayb. Gwefan difyr dros ben.
Map yn dangos hen gantrefi Cymru
Gyda diolch i Phil Mountain o gyngor sir Caerffili, dyma fap yn dangos hen gantrefi Cymru yn dangos mai yng nghantref y Rhos oedd Bae Colwyn. Cliciwch ar y llun i weld y map mawr.
Atodiad: Yn dilyn y cwestiynau yn y Sylwadau, nes i gysylltu â Phil Mountain i ofyn am y map. Dyma ei ateb:
“‘Dwi wedi findio y map ar y We cwpl o flynyddoedd yn ôl. Ni allaf gofio o ble nawr. ‘Dwi’n cywiro un neu ddau o enwau, ee, roedd ‘Iâl’ sillafu’n anghywir fel ‘Yale’. ‘Dwi wedi atodi fersiwn arall sydd fwy neu lai yr un fath. Ceir mwy o wybodaeth yma: http://cy.wikipedia.org/wiki/Cantrefi_a_chymydau_Cymru. Rydym yn edrych ar y cyfnod rhwng y chweched ac unfed ar ddeg ganrifoedd cyn cychwyn y Normaniaid ymyrryd. Mae enwau, wrth gwrs, yn dal i fyw.”
Sul y Cofio – o Glan Conwy i’r Ail Ryfel Byd
A hithau’n Sul y Cofio, dyma stori fy Nhaid, a oedd yn ‘signalman’ ar fwrdd HMS Diadem yn ystod yr Ail Rhyfel Byd.
Un o Glan Conwy oedd John Emrys Williams. Gadawodd ei wraig Mary a’i blant Hugh, John a Glenys dros dro i fynd i’r Llynges yn 1943.
Er mai Cymraeg oedd iaith ei aelwyd, yn Saesneg mae dyddiadur rhyfel Taid. Mae’n bosib mai er mwyn bod yn agored gyda’r bobl oedd falle yn sensro pethau fel yna oedd hyn. Neu efallai mai yn Saesneg oedd Taid wedi cael ei ddysgu i sgwennu yn yr ysgol.
Dyn ni’n cofio –fel plant – straeon Taid yn nyfroedd yr Arctic yn boeri ar fwrdd y llong a’r poer yn caledi fel marblen fach cyn cyrraedd ei draed. Roedd hi mor oer.
Ond soniodd Taid ddim wrtha’i tra’n fyw am ei ran yn Operation Neptune i baratoi i Normandy Landings D-Day. Ac roedd yn rhyfedd i ddarllen am ei ddewrder wrth i’r ‘gliders’ Almaeneg hedfan yn isel dros ei ben.
Bu farw Taid ym 1997.
Prydain o’r Awyr
Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru newydd gyhoeddi gwefan gyda chasgliad digidol o luniau o’r wlad o’r awyr – aeriel photos fel rhain:
Uchod: llun o dyrfaoedd ar y prom ar ymweliad Tywysog Cymru (aeth ymlaen i fod yn Edward VIII) i Fae Colwyn ym mis Tachwedd 1923.
Tywysog Madog – Cymro yn darganfod America?
Tywysog Madog ab Owain Gwynedd oedd y person Ewropeaidd cyntaf i ddarganfod tir America yn ôl yr hanes. A hynny ym 1170 – dau ganrif cyn Christopher Colombus.
Dechreuodd ei siwrnai ym mhorthladd Aber-Cerrik yn Llandrillo-yn-Rhos (Rhos on Sea). Wedi siwrne hir, glaniodd ym Mobile, Alabama.
Dyma luniau ohono gan A. S. Boyd o’r llyfr “Prince Madog Discoverer of America A Legendary Story” gan Joan Dane, cyhoeddwyd gan Everett, Boston Mass.