Categori: fideo
Ar wib ar hyd y Prom yn yr haul
Dyma fideo o bromenad Bae Colwyn wnes i wrth arbrofi gyda Google Streetview Hyperlapse. Does dim sain.
Os am greu fideo o’r fath o’ch ardal chi:
1. dilynwch y ddolen o http://www.teehanlax.com/labs/hyperlapse/ at y teclyn
2. llusgwch tagiau A a B ar y map i ddynodi’r dechrau a’r diwedd
3. defnyddiwch meddalwedd dal fideo fel Faststone Capture i recordio’r olygfa
4. lanlwythwth y fideo gorffenedig i YouTube, Vimeo neu Blip.tv
5. cydiwch yn y code mewnosod er mwyn ei arddangos yn eich blog
Mods 1982
Dyma fideo o 1982 o rali sgwters ym Mae Colwyn gan Rob2Stroke.
Pwt o ffilm Pathe News o Eisteddfod Bae Colwyn 1947
Author: melyn Published Date: 17 Mawrth 2011 3 Sylw ar Pwt o ffilm Pathe News o Eisteddfod Bae Colwyn 1947
Bae Colwyn – Eisteddfod Genedlaethol 1947
Nid yw eich porwr yn dangos iFrames. Cliciwch ar y ddolen isod plis.
Beth tybed sydd yn nghefndir y shot ola? Ai’r llyn cychod neu’r mor sydd yno?
Os nad yw’r fideo yn ymddangos, cliciwch yma.
Rheilffordd drydanol Bae Colwyn a Llandudno
Author: melyn Published Date: 20 Chwefror 2011 Leave a Comment on Rheilffordd drydanol Bae Colwyn a Llandudno
Dyma em o fideo o YouTube o 1954 yn dangos y rhielffordd drydanol rhwng Bae Colwyn a Llandudno.
Os ewch chi i ail hanner y ffilm, mi welwch chi’r tren yn pasio top Stryd yr Orsaf, gyda’r Central Hotel yn y cefndir. Wedyn mae’r tram yn pasio’r West End – gwaelod Victoria Park. Mae na hefyd shot o’r tram yn Llandudno. Doeddwn i rioed wedi gweld ffilm o’r tram yma o’r blaen. Diolch i Huntley Film Archives am rannu’r ffilm: