Categori: rhyfel
Gwefan dwyieithog newydd am dreftadaeth Bae Colwyn
Wrth ymchilio hanes y dref, nes i ddarganfod gwefan dwyieithog Treftadaeth Bae Colwyn / Colwyn Bay Heritage sy’n llawn erthyglau, lluniau a hanesion diddorol am y dref.
Mae aelodau o’r Grŵp Treftadaeth, ynghyd â gwirfoddolwyr o bob oedran, wedi bod yn brysur iawn yn creu y safle a hefyd yn recordio cyfweliadau gyda phobl leol, a rhai sydd wedi treulio amser ym Mae Colwyn ar wyliau neu’n gweithio, sydd oll wedi rhannu eu hatgofion am y dref.
Mae na orielau o luniau, dolenni, clipiau sain, ayb. Gwefan difyr dros ben.
Sul y Cofio – o Glan Conwy i’r Ail Ryfel Byd
A hithau’n Sul y Cofio, dyma stori fy Nhaid, a oedd yn ‘signalman’ ar fwrdd HMS Diadem yn ystod yr Ail Rhyfel Byd.
Un o Glan Conwy oedd John Emrys Williams. Gadawodd ei wraig Mary a’i blant Hugh, John a Glenys dros dro i fynd i’r Llynges yn 1943.
Er mai Cymraeg oedd iaith ei aelwyd, yn Saesneg mae dyddiadur rhyfel Taid. Mae’n bosib mai er mwyn bod yn agored gyda’r bobl oedd falle yn sensro pethau fel yna oedd hyn. Neu efallai mai yn Saesneg oedd Taid wedi cael ei ddysgu i sgwennu yn yr ysgol.
Dyn ni’n cofio –fel plant – straeon Taid yn nyfroedd yr Arctic yn boeri ar fwrdd y llong a’r poer yn caledi fel marblen fach cyn cyrraedd ei draed. Roedd hi mor oer.
Ond soniodd Taid ddim wrtha’i tra’n fyw am ei ran yn Operation Neptune i baratoi i Normandy Landings D-Day. Ac roedd yn rhyfedd i ddarllen am ei ddewrder wrth i’r ‘gliders’ Almaeneg hedfan yn isel dros ei ben.
Bu farw Taid ym 1997.