Posted in lleol tech

Chwe uchelgais ar-lein i’r iaith Gymraeg

1. Hidl iaith wrth bori a chwilio rhestri o lyfrau, elyfrau, cerddoriaeth, ayb mewn siopau ar-lein 

2. Y Gymraeg yn ‘iaith chwylio’

3. Cynnig yr opsiwn o’r Gymraeg wrth fewnlwytho meddalwedd pan mae’r iaith ar gael  (gweler traethawd Jeremy Evas ar Nudge Theory)

4. Cynnig cymorth neu rhoi pwysau ar gwmniau pan nad oes mynediad i’r Gymraeg.

5. Gwersi ac adnoddau codio drwy gyfrwng y Gymraeg.

6. Mwy o wefannau Cymraeg.

Nodiadau o’m cyflwyniad yn Hacio’r Iaith  #haciaith 2013 http://haciaith.com/

Beth hoffech chi ei weld?

Llun gan Nwdls o Hacio'r Iaith 2012. Tyrfa yn gwrando ar recoriad yr Haclediad.
Posted in lleol

Y byd tra-leol yn fwrlwm llwyr

Llun gan Nwdls o Hacio'r Iaith 2012. Tyrfa yn gwrando ar recoriad yr Haclediad.
Llun gan Nwdls o Hacio'r Iaith 2012. Tyrfa yn gwrando ar recoriad yr Haclediad.

Mae ‘na lot yn mynd ymlaen ym myd tra-leol / #hyperlocal yng Nghymru yn ystod yr wythnos nesaf:

16 Ionawr, Caerdydd – Prifysgol Caerdydd yn cynnal Cynhadledd Newyddiaduraeth Gymunedol ac yn lansio eu canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol newydd sbon. Mae Dylan Iorwerth o Golwg Cyf. yn siarad yn y gynhadledd. Ymysg siaradwyr eraill mae’r Weinidog Addysg a Sgiliau Leighton Andrews AS; Jan Schaffer o’r Institute for Interactive Journalism, Washington D.C.; Damian Radcliffe awdur adolygiad NESTA o dirwedd tra-leaol y D.U.; Solana Larsen, Global Voices Online; Richard Sambrook,Sara Moseley, Emma Meese ac Andy Williams JOMEC; Ian Hargreaves a Colin Riordan, Prifysgol Caerdydd; John Kingsbury NESTA; Hannah Waldram, Guardian.co.uk; pennaeth polisi Facebook yn y D.U.; a chynrychiolwyr , Wrexham.com, Port Talbot Magnet, National Union of Journalists, a.y.b.

18 Ionawr, Aberystwyth – Hacathon Papurau Newydd Hanesyddol. Ar gyfer gwefannau hanes lleol fel baecolwyn.com mae’n hynod o gyffrous i ni allu cael mynediad i archif ddigidol y Llyfrgell Genedlaethol.

19 Ionawr, Aberystwyth – Hacio’r Iaith. Siŵr o fod llawer o drafodaeth am dechnoleg Cymraeg gall fod o ddiddordeb i olygyddion, cynhyrchwyr a chyfranwyr i wefannau lleol

Cyhoeddiadau diweddar o ddiddordeb i’r byd tra-leol:

Ar y 10fed o Ionawr, lansiodd ymddiriedolaeth Carnegie Trust UK cystadlaeaeth gyda gwobrau o £50,000 i wella newyddiaduraeth leol yn y D.U. Buasai’n braf iawn gweld menter Cymraeg yn elwa o hyn.

Yng nghynhadledd Arloesi yng Nghymru NESTA ar yr un diwrnod, bu son am waith Papur Dre a Chwmni Da. Dywedodd David Williams o MyTown Media Ltd. – rhwydwaith o wefannau tra-leol Saesneg ym Mhowys – eu bod nhw wedi llwyddo i gael digon o hysbysebion i gyfro costau rhedeg y gwefannau. Mae hyn yn argoeli’n dda i’r diwydiant newydd yma.

Dewiswyd cywaith rhwng yr Athro Justin Lewis o Brifysgol ac asiantaeth Behaviour fel un o brosiectau REACT Books and Print. Mae Justin Lewis yn cydnabod mae bod yn gynaliadwy yw un o sialensiau fwyaf i gyhoeddwyr lleol ar-lein, felly mae am ddefnyddio dulliau ‘behavioural psychology’ i edrych ar beth sy’n ysgogi pobol i wirfoddoli yn y maes.

Does gan yr erthygl yma fawr ddim i’w wneud a Bae Colwyn ond roeddwn i am rannu ychydig o gyffro’r byd tra / gor / heipr lleol yng Nghymru ar ddechrau 2013.

Posted in Glan Conwy hanes

Yr hen storfa fwyd ger y Black Cat

Adeg yr Air Rhyfel Byd, roedd angen adeilad i gadw emergency rations. A dyma ble roedd y tuniau o fwyd yn cael eu cadw. Dwn i’m beth sy’n digwydd yn yr adeilad yma heddiw…

Storfa fwyd y Black Cat

Posted in Bae Colwyn cylch hanes Llandrillo-yn-Rhos lleol

Map yn dangos hen gantrefi Cymru

Gyda diolch i Phil Mountain o gyngor sir Caerffili, dyma fap yn dangos hen gantrefi Cymru yn dangos mai yng nghantref y Rhos oedd Bae Colwyn. Cliciwch ar y llun i weld y map mawr.

Hen Siroedd Cymru gyda diolch i Phil Mountain

Atodiad: Yn dilyn y cwestiynau yn y Sylwadau, nes i gysylltu â Phil Mountain i ofyn am y map. Dyma ei ateb:
“‘Dwi wedi findio y map  ar y We cwpl o flynyddoedd yn ôl.  Ni allaf gofio o ble nawr.  ‘Dwi’n cywiro un neu ddau o enwau, ee, roedd ‘Iâl’ sillafu’n anghywir fel ‘Yale’.  ‘Dwi wedi atodi fersiwn arall sydd fwy neu lai yr un fath.  Ceir mwy o wybodaeth yma: http://cy.wikipedia.org/wiki/Cantrefi_a_chymydau_Cymru.   Rydym yn edrych ar y cyfnod rhwng y chweched ac unfed ar ddeg ganrifoedd cyn cychwyn y Normaniaid ymyrryd.  Mae enwau, wrth gwrs, yn dal i fyw.”

Posted in Bae Colwyn cerdiau post

“Tarts and Tea”

Dwi’n credu mai Tarts and Tea yw’r arwydd ar y caffi ar y chwith. Dyma Beach Rd yn 1924 yn ei ogoniant.

Tarts and tea, Hen Golwyn
Posted in Bae Colwyn cerdiau post

Llun du a gwyn o waelod hen dref Hen Golwyn

Ffoto du a gwyn o’r hen bentref, Hen Golwyn. Mae’r ffigyrau o’r dyn yn y blaen a’r plant yn y cefn yn gwneud y llun yma’n un reit ddiddorol.