Categori: Hen Golwyn
Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, Building Communities Trust a Bae Colwyn
Heddiw, yng Nganolfan yr Urdd, Caerdydd, mae Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau – Building Communities Trust – (BCT) yn cyfarfod er mwyn ceisio llunio maniffesto economi lleol newydd.
Y man cychwyn yw drafft sy’n canolbwyntio ar economi i bobl lleol drwy creu cyfoeth yn lleol, adeiladu cwmniau bychain lleol, Angorau (ysbyty, coleg, cyflogwr mawr), gofal cymdeithasol a defnydd cynnaliadwy o asedau ac adnoddau naturiol.
Mae ardal Glyn, ganol Bae Colwyn, yn un o’r 13 ardal. Ac yn cynrychioli Glyn, Bae Colwyn heddiw yng Nghaerdydd mae Chris Hemmings o’r dref.
Cadwch golwg ar wefan BCT i weld y Maniffesto pan mae’n cael ei gyhoeddi ar wefan BCT.
Ceffyl a chart ar y ffordd o Hen Golwyn i’r traeth
Gan gwmni CS Longman
Dingle Bae Colwyn
Hen hen lun o’r Dingle, Bae Colwyn.
Un o’r ‘Unique Series’ o gardiau post.
Sinemâu Bae Colwyn
Bu Dad yn sôn yn ddiweddar am rai o sinemâu yr ardal:
Arcadia – to fflat mwyaf Ewrop yn ôl y sôn pan adeiladwyd ger yr hen swyddfa bost. Newidiodd enw’r sinema i The Wedgewood. Dwi’n cofio gwylio sawl ffilm James Bond yn y Wedgewood. Paentiwyd yr adeilad yn Wedgewood Blue.
Princess – nepell o’r Arcadia/Wedgewood. Sinema lai ger y farchnad dan do ble roeddwn i’n arfer prynu monkey boots yn y 70au. Boi o Glan Conwy oedd piau’r hen farchnad medde Dad.
Cosy – wrth y bus stop ger y llyfrgell Bae Colwyn. Am enw braf i sinema.
Rialto – roedd Dad yn cofio’r enw ond fawr mwy am y sinema yma.
Odeon – gyferbyn ag Eglwys St John’s. Newidiodd ei enw i’r Astra. Mae ‘na ffotograffau ardderchog o’r sinema hon ar wefan English Heritage. Am resymau hawlfraint, does dim modd dangos y rhain ar y wefan hon, ond dyma sgets frysiog gen i o’r hen Astra. Roedd hi’n eicon Art Deco ac mae’n golled i Fae Colwyn. Fflatiau sydd ar y safle yma heddiw.
Roedd ‘na sinema yn Hen Golwyn hefyd ond nid oedd Dad yn cofio’i enw.
Am ei fod yn mynd i’r ysgol yn Llanrwst, arferai Dad fyn i Luxor Llanrwst i wylio ffilmiau yn aml.Dywedodd ei fod wedi methu’r bys olaf adre sawl gwaith ac wedi gorfod cerdded adra pob cam o Lanrwst i Glan Conwy.