Categori: Conwy
Sesiynau Arloesi Er Mwyn Arbed yn Llanrwst
Author: melyn Published Date: 14 Mawrth 2017 Leave a Comment on Sesiynau Arloesi Er Mwyn Arbed yn Llanrwst
Os oes gennych syniad all wella pethau i unigolion yng ngogledd Cymru a gall arbed arian, falle bydd gennych ddiddordeb yn y gyfres yma o weithdai Arloesi Er Mwyn Arbed am ddim yng Nglasdir, Llanrwst, dros yr wythnosau nesaf.
Dyma’r manylion: https://www.eventbrite.co.uk/o/y-lab-13007087697
Cei Conwy
Dyma lun paent-olew o Gei Conwy o’r 1950au o gasgliad Colin Knowlson, perchennog Slaters of Abergele. Mae Colin a’i dad o’i flaen wedi comisiynu artistiaid lleol – dros y blynyddoedd – i lunio gwaith a gafodd ei arddangos yn ‘showrooms’ Slaters yn Abergele, Pensarn, Rhuthun, ayb. Mae gen i ofn mod i wedi anghofio enw’r artist yma, ond dwi’n hoff iawn o’r awyrgylch mae o wedi cyfleu yn y paentiad.