Posted in Bae Colwyn cerdiau post

Pram ar Station Rd.

Golygfa o Ffordd yr Orsaf.

Ffordd yr Orsaf, Bae Colwyn
Rhodfa Rhiw Bank
Posted in Bae Colwyn cerdiau post

Rhodfa’r Rhiw Banc

Rhodfa’r Rhiw Banc sy’n arwain i fyny’r allt o Ffordd Abergele. Tybed beth oedd y criw o bobol ar gornel y stryd ar y dde yn ei wneud?

Rhodfa Rhiw Bank

bathodyn: "Colwyn Bay" badge
Posted in Bae Colwyn

Bathodyn Bae Colwyn

Bathodyn o’r 60/70au i gofio gwyliau ym Mae Colwyn.

bathodyn: "Colwyn Bay" badge

Posted in Bae Colwyn cerdiau post

Hiwmor rheilffordd

Cartwn o hen ddyn gyda phen tost yn gorfod cerdded adref o’i wyliau ym Mae Colwyn am ei fod wedi gwario neu golli pob dimau.

heb gerdyn post ddigri

tai bach yr haf
Posted in Bae Colwyn cerdiau post Hen Golwyn Llandrillo-yn-Rhos

Tai bach yr haf

Dwi’n cofio’r tai bychain  (chalets) yma ar ochr chwith ffordd y promenade wrth yrru o Hen Golwyn i Rhos on Sea. Dyma lun o c1960 sy’n dangos nhw yn eu anterth.

tai bach yr haf

Prom Bae Colwyn 1904
Posted in Bae Colwyn

Pram, cytiau newid a hetiau haul ar y Prom

Gyda’r ffotograffydd yn sefyll wrth fynedfa’r pier, dyma lun o’r Prom. Mae ‘na hen bram, cytiau newid a hetiau haul yn helpu i gyfleu’r oes a’r awyrgylch.

Prom Bae Colwyn 1904

Posted in Bae Colwyn fideo

Ar wib ar hyd y Prom yn yr haul

Dyma fideo o bromenad Bae Colwyn wnes i wrth arbrofi gyda Google Streetview Hyperlapse. Does dim sain.

Os am greu fideo o’r fath o’ch ardal chi:
1. dilynwch y ddolen o  http://www.teehanlax.com/labs/hyperlapse/ at y teclyn
2.  llusgwch  tagiau A a B ar y map i ddynodi’r dechrau a’r diwedd
3.  defnyddiwch meddalwedd dal fideo fel Faststone Capture i recordio’r olygfa
4.  lanlwythwth y fideo gorffenedig i YouTube, Vimeo neu Blip.tv
5. cydiwch yn y code mewnosod er mwyn ei arddangos yn eich blog
Posted in Bae Colwyn cerdiau post

Yr hen bont pren

Darlun rhamantus o bont pren dros nant gul mewn coedwig uwchben Bae Colwyn.

Posted in Bae Colwyn ffotograffiaeth

Pier Bae Colwyn, tua 1890, o’r orsaf drenau

Y Prom, y Pier a’r Pafiliwn. Llun Library of Congress 1890-1900. Tynnwyd y llun o’r orsaf drenau.

Bae Colwyn Y Prom, y Pier a'r Pafiliwn. Llun Library of Congress 1890-1900.

ding-dong yn y Dingle
Posted in Bae Colwyn cerdiau post

Mewn harmoni gyda’r Welsh Lady

Mae’r dyn yn dal yn dynn (armlock?) yn llaw y ddynes Gymreig ac yn cuddio ar y chwith mae na ddyn arall gyda barf. Wow.
Ding-dong yn y Dingle.

ding-dong yn y Dingle