multi-view o Fae Colwyn
Posted in Bae Colwyn cerdiau post

Cerdiau post aml-olygfa

Mae cerdiau post aml-olygfa wedi bod yn boblogaedd er talwm. Dyma un sy’n dagos ambell agwedd o Fae Colwyn, gan gynnwys y llyn llongau newydd (ar y pryd) ym Mharc Eirias.

multi-view o Fae Colwyn

Posted in arferion cerdd Glan Conwy hanes

Hel Calennig

Blwyddyn Newydd Dda i chi ac i bawb sydd yn y ty….
Dyna’r cerdd hel calennig enwocaf yng Nghymru am wn i. Ond ches i hanes hel calennig ardal Glan Conwy cyn yr Ail Rhyfel Byd gan fy nhad.

Arferai John Emrys Williams godi’n gynnar achos yr ymwelydd cyntaf oedd fel arfer yn cael yr anrheg orau. Roedd un trigolyn arfer rhoi hanner coron iddo. Roedd hyn yn ffortiwn. Ond ateb eraill i’r dymuniad Blwyddyn Newydd Dda oedd:
“Yr un fath i chi a llawer iawn ohonyn nhw”

Hoff gerdd Calenig Dad oedd:

Fy nghlennig, fy nghlennig i’r Christmas Bocs
Mam yn ei sgidie a dad yn ei glocs.

calennig Cymreig. Oren, cloves a sinamonn

Cerdded yn y Bae, tua 1935
Posted in Bae Colwyn llyfr

Hen lawlyfr

Geid i lwybrau gwledig yng nghyffiniau Bae Colwyn. Cyhoeddwyd gan y papur newydd Weekly News oddeutu 1935.

Cerdded yn y Bae, tua 1935

Posted in Bae Colwyn bwyd

Caffi Gloriosa

Ffefryn ymysg Cymry’r dref yw Caffi’r Gloriosa yn y ‘West End’. Lle da i gyfarfod Cymry eraill ac i gadw i fyny gyda’r clecs. Y scrambled eggs gorau ar yr arfordir medde nhw…

DIGITAL CAMERA

 

Posted in Bae Colwyn hanes rhyfel

Gwefan dwyieithog newydd am dreftadaeth Bae Colwyn

Wrth ymchilio hanes y dref, nes i ddarganfod gwefan dwyieithog Treftadaeth Bae Colwyn / Colwyn Bay Heritage sy’n llawn erthyglau, lluniau a hanesion diddorol am y dref.


colwynbayheritage


Mae aelodau o’r Grŵp Treftadaeth, ynghyd â gwirfoddolwyr o bob oedran, wedi bod yn brysur iawn yn creu y safle a hefyd yn recordio cyfweliadau gyda phobl leol, a rhai sydd wedi treulio amser ym Mae Colwyn ar wyliau neu’n gweithio, sydd oll wedi rhannu eu hatgofion am y dref.

Mae na orielau o luniau, dolenni, clipiau sain, ayb. Gwefan difyr dros ben.

Posted in Bae Colwyn rydal rygbi

Tîm Rygbi Tonga ym Mae Colwyn?

Mae hwn yn dipyn o ddirgelwch i mi, achos dwi di fethu ffeindio unrhyw sôn ar y we am hyn….

Mae gen i gof o wylio gem rygbi rhwng Tonga a thîm rygbi Gogledd Cymru ar faes Ysgol Rydal gyda nhad ar ddechrau’r 1970au. Ges i lofnodion aelodau’r tîm a Miss Tonga a oedd yn teithio gyda’r tîm. Nes i ddim cadw’r llyfr yma, gwaetha’r modd.

Does dim sôn am daith Tonga i Gymru adeg hynny ar wefan Undeb Rygbi Cymru. Falch am unrhyw wybodaeth. Diolch.

Posted in Cymraeg tech

Cyflwyniad i gynhadledd EduWiki 2013

Daeth EduWiki 2013 i Gymru – Future Inn, Caerdydd. Cefais wahoddiad i son am strategaeth technoleg iaith Cymraeg Llywodraeth Cymru. Dyma’r sleidiau o’m cyflwyniad. Does gan yr erthygl hon fawr i’w wneud gyda Bae Colwyn ond y gobaith y bydd cynyddu’r nifer o wefannau a blogiau Cymraeg fel yr un yma yn help wrth godi proffil yr iaith Gymraeg yn ecosystem y we. Ac mae’r nifer o erthyglau Cymraeg ar Wikipedia yn allweddol, fel y gwelwch yn y cyflwyniad…

 

 

Dyma fideo o’r digwyddiad

Posted in Bae Colwyn ffotograffiaeth

Tyfod o’r mor

Un o lwyddiannau’r haf heulog hon oedd tyfod euraidd glan mor Bae Colwyn. Cafodd ei bwmpio o’r mor er mwyn gorchuddio’r cerrig bychain, ond mae’n amlwg fod ymwelwyr i’r dref wedi gwerthfawrogi’r tyfod ffres.

traeth Bae Colwyn yn yr haf 2013

Traeth Bae Colwyn

Traeth Bae Colwyn

Traeth Bae Colwyn

Traeth Bae Colwyn

Bryn Euryn 1908
Posted in Bae Colwyn ffotograffiaeth

Bryn Euryn 1908

Y bryn hanesyddol Bryn Euryn ar ochr gorllewinol y dref. Ffoto o 1908.

Bryn Euryn 1908

Beach Rd Hen Golwyn 1910
Posted in Bae Colwyn cerdiau post

Beicio ym 1910

O’r flwyddyn 1910 dyma lun o’r ffordd i’r glan mor yn Hen Golwyn gyda merch a’i beic ar yr ochr chwith.

Beach Rd Hen Golwyn 1910