Daeth EduWiki 2013 i Gymru – Future Inn, Caerdydd. Cefais wahoddiad i son am strategaeth technoleg iaith Cymraeg Llywodraeth Cymru. Dyma’r sleidiau o’m cyflwyniad. Does gan yr erthygl hon fawr i’w wneud gyda Bae Colwyn ond y gobaith y bydd cynyddu’r nifer o wefannau a blogiau Cymraeg fel yr un yma yn help wrth godi proffil yr iaith Gymraeg yn ecosystem y we. Ac mae’r nifer o erthyglau Cymraeg ar Wikipedia yn allweddol, fel y gwelwch yn y cyflwyniad…
Dyma fideo o’r digwyddiad
Gwaith da Gareth, diolch am rannu.
Oedd wir, Carl. Cafwyd sawl ymateb o bob cwr o’r byd, yn enwedig gan Rodney Dunican o Wikimedia Foundation a [http://ukwebfocus.wordpress.com/2013/11/05/reflections-on-the-eduwiki-2013-conference/ Brian Kelly] (Cetis). Diolch Gareth!
Croeso calon wir. Roedd diddordeb y gynnulleidfa yn ein hiaith yn codi nghalon i.
Da iawn Gareth! Neis gweld Tree Fu Tom!
Wel ie, am wefan ardderchog Joanna.