Mae ‘na lot yn mynd ymlaen ym myd tra-leol / #hyperlocal yng Nghymru yn ystod yr wythnos nesaf:
16 Ionawr, Caerdydd – Prifysgol Caerdydd yn cynnal Cynhadledd Newyddiaduraeth Gymunedol ac yn lansio eu canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol newydd sbon. Mae Dylan Iorwerth o Golwg Cyf. yn siarad yn y gynhadledd. Ymysg siaradwyr eraill mae’r Weinidog Addysg a Sgiliau Leighton Andrews AS; Jan Schaffer o’r Institute for Interactive Journalism, Washington D.C.; Damian Radcliffe awdur adolygiad NESTA o dirwedd tra-leaol y D.U.; Solana Larsen, Global Voices Online; Richard Sambrook,Sara Moseley, Emma Meese ac Andy Williams JOMEC; Ian Hargreaves a Colin Riordan, Prifysgol Caerdydd; John Kingsbury NESTA; Hannah Waldram, Guardian.co.uk; pennaeth polisi Facebook yn y D.U.; a chynrychiolwyr , Wrexham.com, Port Talbot Magnet, National Union of Journalists, a.y.b.
18 Ionawr, Aberystwyth – Hacathon Papurau Newydd Hanesyddol. Ar gyfer gwefannau hanes lleol fel baecolwyn.com mae’n hynod o gyffrous i ni allu cael mynediad i archif ddigidol y Llyfrgell Genedlaethol.
19 Ionawr, Aberystwyth – Hacio’r Iaith. Siŵr o fod llawer o drafodaeth am dechnoleg Cymraeg gall fod o ddiddordeb i olygyddion, cynhyrchwyr a chyfranwyr i wefannau lleol
Cyhoeddiadau diweddar o ddiddordeb i’r byd tra-leol:
Ar y 10fed o Ionawr, lansiodd ymddiriedolaeth Carnegie Trust UK cystadlaeaeth gyda gwobrau o £50,000 i wella newyddiaduraeth leol yn y D.U. Buasai’n braf iawn gweld menter Cymraeg yn elwa o hyn.
Yng nghynhadledd Arloesi yng Nghymru NESTA ar yr un diwrnod, bu son am waith Papur Dre a Chwmni Da. Dywedodd David Williams o MyTown Media Ltd. – rhwydwaith o wefannau tra-leol Saesneg ym Mhowys – eu bod nhw wedi llwyddo i gael digon o hysbysebion i gyfro costau rhedeg y gwefannau. Mae hyn yn argoeli’n dda i’r diwydiant newydd yma.
Dewiswyd cywaith rhwng yr Athro Justin Lewis o Brifysgol ac asiantaeth Behaviour fel un o brosiectau REACT Books and Print. Mae Justin Lewis yn cydnabod mae bod yn gynaliadwy yw un o sialensiau fwyaf i gyhoeddwyr lleol ar-lein, felly mae am ddefnyddio dulliau ‘behavioural psychology’ i edrych ar beth sy’n ysgogi pobol i wirfoddoli yn y maes.
Does gan yr erthygl yma fawr ddim i’w wneud a Bae Colwyn ond roeddwn i am rannu ychydig o gyffro’r byd tra / gor / heipr lleol yng Nghymru ar ddechrau 2013.
Cytuno’n llwyr. Mi fydda’i yn cyfranu i’r drafodaeth yn JOMEC. Yn dilyn y cyhoeddiadau siomedig o’r cyfrifiad yr wythnos o’r blaen mae’r angen i ni ddatblygu cymuned Gymraeg ar lein ‘rioed di bod mor bwysig.