Categori: dyfrliw
Dyfrliw o’r bont rheilffordd ym Mae Colwyn o 1886
Sinemâu Bae Colwyn
Bu Dad yn sôn yn ddiweddar am rai o sinemâu yr ardal:
Arcadia – to fflat mwyaf Ewrop yn ôl y sôn pan adeiladwyd ger yr hen swyddfa bost. Newidiodd enw’r sinema i The Wedgewood. Dwi’n cofio gwylio sawl ffilm James Bond yn y Wedgewood. Paentiwyd yr adeilad yn Wedgewood Blue.
Princess – nepell o’r Arcadia/Wedgewood. Sinema lai ger y farchnad dan do ble roeddwn i’n arfer prynu monkey boots yn y 70au. Boi o Glan Conwy oedd piau’r hen farchnad medde Dad.
Cosy – wrth y bus stop ger y llyfrgell Bae Colwyn. Am enw braf i sinema.
Rialto – roedd Dad yn cofio’r enw ond fawr mwy am y sinema yma.
Odeon – gyferbyn ag Eglwys St John’s. Newidiodd ei enw i’r Astra. Mae ‘na ffotograffau ardderchog o’r sinema hon ar wefan English Heritage. Am resymau hawlfraint, does dim modd dangos y rhain ar y wefan hon, ond dyma sgets frysiog gen i o’r hen Astra. Roedd hi’n eicon Art Deco ac mae’n golled i Fae Colwyn. Fflatiau sydd ar y safle yma heddiw.
Roedd ‘na sinema yn Hen Golwyn hefyd ond nid oedd Dad yn cofio’i enw.
Am ei fod yn mynd i’r ysgol yn Llanrwst, arferai Dad fyn i Luxor Llanrwst i wylio ffilmiau yn aml.Dywedodd ei fod wedi methu’r bys olaf adre sawl gwaith ac wedi gorfod cerdded adra pob cam o Lanrwst i Glan Conwy.