Posted in Bae Colwyn cylch Hen Golwyn

Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, Building Communities Trust a Bae Colwyn

Heddiw, yng Nganolfan yr Urdd, Caerdydd, mae Ymddiriedolaeth Adeiladu  Cymunedau – Building Communities Trust – (BCT) yn cyfarfod er mwyn ceisio llunio maniffesto economi lleol newydd.

Y man cychwyn yw drafft sy’n canolbwyntio ar economi i bobl lleol drwy creu cyfoeth yn lleol, adeiladu cwmniau bychain lleol, Angorau (ysbyty, coleg, cyflogwr mawr), gofal cymdeithasol a defnydd cynnaliadwy o asedau ac adnoddau naturiol.

Debyniodd BCT £13miliwn o’r Loteri Fawr er mwyn gallu rhoi £1milliwn yr un i 13 o ardaloedd yng Nghymru.

Mae ardal Glyn, ganol Bae Colwyn, yn un o’r 13 ardal. Ac yn cynrychioli Glyn, Bae Colwyn heddiw yng Nghaerdydd mae Chris Hemmings o’r dref.

Chris Hemmings o Fae Colwyn yn trafod maniffesto BCT

Cadwch golwg ar wefan BCT i weld y Maniffesto pan mae’n cael ei gyhoeddi ar wefan BCT. 

 

Posted in chwedlau cylch

Gwarth y llosgi sgidiau

Ar ochr ffordd Bwlch Crimea rhwng Ddolwyddelan a Blaenau Ffestiniog, mae na lain o dir moel. Wrth edrych yn agosach fe welwch chi fod yna bedolau bychain yn y pridd. Mae’r stori tu ol i hwn yn un dwi’n cofio Nhaid yn adrodd pan oeddwn i’n hogyn bach yn mynd am drip dydd Sul yn y car gyda fo, y teulu a Nain.

crimea-darnmoel

crimea-pedolau crimea-pedol

 

Ar ôl y rhyfel, roedd yna dlodi ym Mlaenau Ffestiniog. Pan ddaeth y fyddin gyda llwyth o sgidiau i losgi, plediodd y bobl leol am gael cadw’r sgidiau. Ond fe fynnodd y fyddin fod angen llosgi pob esgid. Dywedodd un aelod lleol o’r gymuned yn gandryll: “Os losgwch chi’r esgidiau yna, neith ddim blewyn o laswellt tyfu yno byth eto “. Ac yn wir i chi, mae’r tir yn parhau yn foel yn y fan ble losgwyd yr esgidiau.

 

Posted in cylch lleol tech

Mapiau rhyngweithiol Cymraeg

Dim ond mapiau gydag enwau Saesneg sy’n hawdd mewnosod ar wefannau lleol Cymraeg ar hyn o bryd. Ond mae gallu dangos enwau llefydd Cymraeg ar fapiau rhyngweithiol yn bwysig dros ben.

Dyma newyddion am gam i’r cyfeirad cywir.

Mae ap mapiau Windows 8 Microsoft yn dangos dipyn go lew o enwau llefydd Cymraeg arnyn nhw wrth osod iaith Win8 i Gymraeg. Sbïwch ar hyn:


mapiau-app-bing

Mae’n ddiddorol i gymharu map ap Windows 8 Bing gyda’r un ardal ar Google maps. Dyma ran o Aberystwyth:

Aberystwyth ar fap rhyngweithiol Google i'r we: e.e. Queen Street
Aberystwyth ar fap rhyngweithiol Google i’r we: e.e. Queen Street


Bing CY
Aberystwyth ar ap Mapiau Bing Cymraeg: e.e. Morfa Mawr. Nodwch mai dim ond ar yr ap mae’r Gymraeg ar gael; nid ar fapiau Bing i’r we


Hyd y gwn i, fedrwch chi ddim mewnosod mapiau o ap mapiau Bing, ond mae’r ffaith fod yna fap rhyngweithio gydag enwau llefydd Cymraeg arno yn codi calon golygydd gwefan lleol BaeColwyn.com

O.N. Mae Google yn diweddaru eu mapiau nhw cyn hir medde’r erthygl yma o 19 Chwefror 2014.


Erthygl o Chwefror 2014. Gall pethau fod wedi newid erbyn i chi ddarllen hwn, hei lwc.

Posted in Bae Colwyn cylch hanes Llandrillo-yn-Rhos lleol

Map yn dangos hen gantrefi Cymru

Gyda diolch i Phil Mountain o gyngor sir Caerffili, dyma fap yn dangos hen gantrefi Cymru yn dangos mai yng nghantref y Rhos oedd Bae Colwyn. Cliciwch ar y llun i weld y map mawr.

Hen Siroedd Cymru gyda diolch i Phil Mountain

Atodiad: Yn dilyn y cwestiynau yn y Sylwadau, nes i gysylltu â Phil Mountain i ofyn am y map. Dyma ei ateb:
“‘Dwi wedi findio y map  ar y We cwpl o flynyddoedd yn ôl.  Ni allaf gofio o ble nawr.  ‘Dwi’n cywiro un neu ddau o enwau, ee, roedd ‘Iâl’ sillafu’n anghywir fel ‘Yale’.  ‘Dwi wedi atodi fersiwn arall sydd fwy neu lai yr un fath.  Ceir mwy o wybodaeth yma: http://cy.wikipedia.org/wiki/Cantrefi_a_chymydau_Cymru.   Rydym yn edrych ar y cyfnod rhwng y chweched ac unfed ar ddeg ganrifoedd cyn cychwyn y Normaniaid ymyrryd.  Mae enwau, wrth gwrs, yn dal i fyw.”

Posted in Conwy cylch

Cei Conwy

Dyma lun paent-olew o Gei Conwy o’r 1950au o gasgliad Colin Knowlson, perchennog Slaters of Abergele. Mae Colin a’i dad o’i flaen wedi comisiynu artistiaid lleol – dros y blynyddoedd – i lunio gwaith a gafodd ei arddangos yn ‘showrooms’ Slaters yn Abergele, Pensarn, Rhuthun, ayb. Mae gen i ofn mod i wedi anghofio enw’r artist yma, ond dwi’n hoff iawn o’r awyrgylch mae o wedi cyfleu yn y paentiad.

Cei Conwy - Hawlfraint Colin Knowlson
Cei Conwy - Hawlfraint Colin Knowlson

Posted in Bae Colwyn cylch lleol

Hywel Gwynfryn ar draeth Bae Colwyn

Bydd Hywel Gwynfryn, Radio Cymru, yn darlledu’n fyw ar y traeth ym Mae Colwyn ar Dydd Gwener Mehefin 10fed fel rhan o Daith y Saith Traeth. Bu ei gynhyrchydd mewn cysylltiad i ofyn am awgrymiadau – cymeriadau’r cylch – i gael sgwrs gyda Hywel ar y radio. Defnyddiwch y ffurflen Sylwadau isod os am awgrymu rhywun.

Posted in Bae Colwyn cylch dyfrliw Hen Golwyn lleol

Sinemâu Bae Colwyn

Bu Dad yn sôn yn ddiweddar am rai o sinemâu yr ardal:

Arcadia – to fflat mwyaf Ewrop yn ôl y sôn pan adeiladwyd ger yr hen swyddfa bost. Newidiodd enw’r sinema i The Wedgewood. Dwi’n cofio gwylio sawl ffilm James Bond yn y Wedgewood. Paentiwyd yr adeilad yn Wedgewood Blue.

Princess – nepell o’r Arcadia/Wedgewood. Sinema lai ger y farchnad dan do ble roeddwn i’n arfer prynu monkey boots yn y 70au. Boi o Glan Conwy oedd piau’r hen farchnad medde Dad.

Cosy – wrth y bus stop ger y llyfrgell Bae Colwyn. Am enw braf i sinema.

Rialto – roedd Dad yn cofio’r enw ond fawr mwy am y sinema yma.

Odeon – gyferbyn ag Eglwys St John’s. Newidiodd ei enw i’r Astra. Mae ‘na ffotograffau ardderchog o’r sinema hon ar wefan English Heritage. Am resymau hawlfraint, does dim modd dangos y rhain ar y wefan hon, ond dyma sgets frysiog gen i o’r hen Astra. Roedd hi’n eicon Art Deco ac mae’n golled i Fae Colwyn. Fflatiau sydd ar y safle yma heddiw.

sgets o'r Astra - Odeon

Roedd ‘na sinema yn Hen Golwyn hefyd ond nid oedd Dad yn cofio’i enw.
Am ei fod yn mynd i’r ysgol yn Llanrwst, arferai Dad fyn i Luxor Llanrwst i wylio ffilmiau yn aml.Dywedodd ei fod wedi methu’r bys olaf adre sawl gwaith ac wedi gorfod cerdded adra pob cam o Lanrwst i Glan Conwy.

Posted in cerddoriaeth cylch

Dwi’n dod o Rhyl

Sesiwn Unnos wych neithiwr gan MC Mabon, Tesni Jones, Ceri Bostock, Ed Holden a David Wrench ar C2 Radio Cymru.  Nepell o Fae Colwyn, mae’r Rhyl a “Dwi’n dod o Rhyl” yw testun un o’r caneuon Trac 3.

dwindodorhyl
Gyda llaw, son am Sesiwn Unnos, mae’r gan gan Y Polyroids – Siapiau i’r Haf (Trac 4) yn wych.