tai bach yr haf
Posted in Bae Colwyn cerdiau post Hen Golwyn Llandrillo-yn-Rhos

Tai bach yr haf

Dwi’n cofio’r tai bychain  (chalets) yma ar ochr chwith ffordd y promenade wrth yrru o Hen Golwyn i Rhos on Sea. Dyma lun o c1960 sy’n dangos nhw yn eu anterth.

tai bach yr haf

Posted in Bae Colwyn cylch hanes Llandrillo-yn-Rhos lleol

Map yn dangos hen gantrefi Cymru

Gyda diolch i Phil Mountain o gyngor sir Caerffili, dyma fap yn dangos hen gantrefi Cymru yn dangos mai yng nghantref y Rhos oedd Bae Colwyn. Cliciwch ar y llun i weld y map mawr.

Hen Siroedd Cymru gyda diolch i Phil Mountain

Atodiad: Yn dilyn y cwestiynau yn y Sylwadau, nes i gysylltu â Phil Mountain i ofyn am y map. Dyma ei ateb:
“‘Dwi wedi findio y map  ar y We cwpl o flynyddoedd yn ôl.  Ni allaf gofio o ble nawr.  ‘Dwi’n cywiro un neu ddau o enwau, ee, roedd ‘Iâl’ sillafu’n anghywir fel ‘Yale’.  ‘Dwi wedi atodi fersiwn arall sydd fwy neu lai yr un fath.  Ceir mwy o wybodaeth yma: http://cy.wikipedia.org/wiki/Cantrefi_a_chymydau_Cymru.   Rydym yn edrych ar y cyfnod rhwng y chweched ac unfed ar ddeg ganrifoedd cyn cychwyn y Normaniaid ymyrryd.  Mae enwau, wrth gwrs, yn dal i fyw.”

Posted in chwedlau hanes Llandrillo-yn-Rhos

Tywysog Madog – Cymro yn darganfod America?

Tywysog Madog ab Owain Gwynedd oedd y person Ewropeaidd cyntaf i ddarganfod tir America yn ôl yr hanes. A hynny ym 1170 – dau ganrif cyn Christopher Colombus.

Dechreuodd ei siwrnai ym mhorthladd Aber-Cerrik yn Llandrillo-yn-Rhos (Rhos on Sea). Wedi siwrne hir, glaniodd ym Mobile, Alabama.

Dyma luniau ohono gan A. S. Boyd o’r llyfr “Prince Madog Discoverer of America A Legendary Story” gan Joan Dane, cyhoeddwyd gan Everett, Boston Mass.