Posted in Bae Colwyn cerddoriaeth Cymraeg lleol What's on?

Diwrnod Agored y Ganolfan ar gyfer Ymgysylltu Diwylliannol

Cysylltodd Ceris Dien i ddweud:

“‘Rwyf newydd ddod ar draws eich wefan ddiddorol ynglyn â Bae Colwyn. ‘Rwyf yn gweithio’n wirfoddol gyda sefydliad cymunedol lleol – “Y Ganolfan ar gyfer Ymgysylltu Diwylliannol / Centre for Cultural Engagement” – sy’n ceisio trefnu a hybu gweithgareddau diwylliannol yn y Bae. Y nod yw i annog aelodau’r gymuned, o wahanol gefndiroedd diwylliannol, i ddod i ddeall a pharchu ‘i gilydd yn well, er engrhaifft trwy ddysgu am draddodiadau celfyddydol a ieithyddol ei gilydd.

“Fel rhan o’r ymdrech hyn ‘rwyf yn awyddus i ehangu gwybodaeth o, a pharch at, hanes yr ardal, ac yn arbennig lle’r Gymraeg yn y gymuned. ‘Rydym yn cynnal Diwrnod Agored ar y 4ydd Gorffenaf yn ein lleoliad newydd yn 10 Greenfield Road, Bae Colwyn.  ‘Rwyf wrthi’n paratoi arddangosfa bychan i egluro tarddiad enwau llefydd lleol fel ‘Colwyn’ ac ‘Eirias’.”

Mae na ddawnsio o Sri Lanka, cyfle i drio caligraffeg, cerddoriaeth o’r 60au, ayb. Mwy o fanylion ar wefan NWAMI.

 

 

Posted in Cymraeg tech

Cyflwyniad i gynhadledd EduWiki 2013

Daeth EduWiki 2013 i Gymru – Future Inn, Caerdydd. Cefais wahoddiad i son am strategaeth technoleg iaith Cymraeg Llywodraeth Cymru. Dyma’r sleidiau o’m cyflwyniad. Does gan yr erthygl hon fawr i’w wneud gyda Bae Colwyn ond y gobaith y bydd cynyddu’r nifer o wefannau a blogiau Cymraeg fel yr un yma yn help wrth godi proffil yr iaith Gymraeg yn ecosystem y we. Ac mae’r nifer o erthyglau Cymraeg ar Wikipedia yn allweddol, fel y gwelwch yn y cyflwyniad…

 

 

Dyma fideo o’r digwyddiad

Posted in Cymraeg lleol

Sut i greu blog lleol Cymraeg

Mae Carl Morris newydd gyhoeddi tudalen ar Hedyn sy’n egluro sut i sefydlu blog lleol fel BaeColwyn.com. Bues i yn Talk About Local ddydd Sadwrn a bu trafodaeth ddwys am ein traddodiad Papurau Bro. Yn ogystal â blogiau lleol, oni fyddai’n braf gweld mwy o fersiynnau arlein o’r Papurau Bro hyn? Un ffigwr welais i am amcan nifer darllenwyr (nid gwerthiant) holl Bapurau Bro Cymru oedd 70k. (c/f  Western Mail 33k, Daily Post ?k, South Wales Echo 50k, South Wales Argus 30k, Evening Post 54k, Golwg 12k, Cymru 4k -Ffynonellau: rhai yn ABC, eraill amrywiol) 
Diolch i Carl am gyhoeddi’r cyfarwyddiadau cam-wrth-gam.