Posted in Bae Colwyn rygbi

Sgwad rygbi Cymru ym Mae Colwyn

Ar 10fed o Awst 2015 yn Ffordd yr Orsaf
rygbicymru

Posted in Bae Colwyn rydal rygbi

Tîm Rygbi Tonga ym Mae Colwyn?

Mae hwn yn dipyn o ddirgelwch i mi, achos dwi di fethu ffeindio unrhyw sôn ar y we am hyn….

Mae gen i gof o wylio gem rygbi rhwng Tonga a thîm rygbi Gogledd Cymru ar faes Ysgol Rydal gyda nhad ar ddechrau’r 1970au. Ges i lofnodion aelodau’r tîm a Miss Tonga a oedd yn teithio gyda’r tîm. Nes i ddim cadw’r llyfr yma, gwaetha’r modd.

Does dim sôn am daith Tonga i Gymru adeg hynny ar wefan Undeb Rygbi Cymru. Falch am unrhyw wybodaeth. Diolch.