Dyma recordiad 1959 o Roger Edwards, Glan Conwy. O feddwl mai yn ei 80au roedd Mr Edwards pan recordiodd nhad hwn yn ’59, mae’n debyg mai tua 1880 fe’i ganwyd. Recordiodd dad dau ril o dap gyda Mr Edwards ac mae’n hudolus gallu gwrando ar atgofion dyn a magwyd yn y pentre yn ystod y C19eg. Dyma Mr Edwards yn son am y Band of Hope a ffyrnigrwydd plismon y pentre tuag at bobl oedd wedi meddwi:
Roger Edwards, Glan Conwy 1959 Band of Hope ac yfed yn Glan Conwy by aberth
Sut cafodd y recordiad ei dynnu oddi ar y ddau ril a’i uwchlwytho i Soundcloud? H.y. oes ganddoch chi chwaraewr ril sy’n dal i weithio?
Huw, roedd gan Taid hen 1/4″ Tandberg a dwi’n meddwl mai Dad nath drosglwyddo’r ril i gaset nol yn y 70au. Nes i ddigideiddio’r caset tua 1998 a’i roi ar Soundcloud y llynedd.
Dwi’n gweld. Dwi’n edrych i drio digido recordiadau tâp ril fy hun. Mae’r chwaraewr gartref wedi torri (gwifren wedi pydru etc.)
Mae na foi yn Stafford yn gwerthu cwpwl o reel-to-reels ar ebay heddiw:
http://www.ebay.co.uk/sch/jakeyblake/m.html?hash=item256d607d41&item=160748830017&pt=UK_Consumer_VintageAudio_RL&_trksid=p4340.l2562