Gyda diolch i Phil Mountain o gyngor sir Caerffili, dyma fap yn dangos hen gantrefi Cymru yn dangos mai yng nghantref y Rhos oedd Bae Colwyn. Cliciwch ar y llun i weld y map mawr.
Atodiad: Yn dilyn y cwestiynau yn y Sylwadau, nes i gysylltu â Phil Mountain i ofyn am y map. Dyma ei ateb:
“‘Dwi wedi findio y map ar y We cwpl o flynyddoedd yn ôl. Ni allaf gofio o ble nawr. ‘Dwi’n cywiro un neu ddau o enwau, ee, roedd ‘Iâl’ sillafu’n anghywir fel ‘Yale’. ‘Dwi wedi atodi fersiwn arall sydd fwy neu lai yr un fath. Ceir mwy o wybodaeth yma: http://cy.wikipedia.org/wiki/Cantrefi_a_chymydau_Cymru. Rydym yn edrych ar y cyfnod rhwng y chweched ac unfed ar ddeg ganrifoedd cyn cychwyn y Normaniaid ymyrryd. Mae enwau, wrth gwrs, yn dal i fyw.”
Dw i’n credu mai ‘cantrefi‘ ydy’r rhain ac nid siroedd. Mae erthygl am gantref Rhos ar y Wicipedia.
Wyt ti’n gwybod o ba lyfr ddaeth y map?
Diolch Rhys. Na’i tweak back i’r pennawd. Fel pdf gan Phil Mountain ddaeth y map; dim syniad sori o ba lyfr y daeth. Gobeithio dy weld yn Haciaith13 yn Aber.
Dwi ‘di holi Phil bellach ac wedi atodi ei ymateb i’r post gwreiddiol.
Diolch am y diweddariad. Gobeithio bydd Phil yn gallu rhannu unrhyw ddarganfyddiadau newydd gyda ni drwy ymhelaethu ar yr erthygl(au) Wicipedia!
Fydda i ddim yn Hacio’r Iaith eleni yn anffodus, ond bydda i yna mewn ysbryd – ac yn gobeithio bydd digonedd o flogio byw 😉