Llun gan hen hen daid cymydog fy nhad yw hwn. Dyma longau yn Neganwy yn cael eu llwytho gyda llechi. Diolch i Brian Haynes am roi sgan o’r llun i mi.
Yn ol y dudalen hon (PDF), hwylio allan o harbwr dyfnach Porthmadog wnaeth y rhan fwyaf o lechi trymion Blaenau Ffestiniog. Serch hynny, roedd porthladd Deganwy ar ei anterth rhwng 1886 a 1914, gyda glo o dde Cymru a choed o Sgandinafia yn cyrraedd wrth i’r llechi adael.
Gret Gareth, wedi rili mwynhau edrych ar hwn, a beth am y Gyffordd hefyd: http://en.wikipedia.org/wiki/Llandudno_Junction , y ‘Killer’ ayb.
Diolch Aelwyn. Ie, bydd ‘na straeon am y Junction. Ond dwi ddim yn dallt beth yw y ‘Killer’…?
Aaaah, ie, lladd amser yn Y Killer – The Old Station Hotel, gyferbyn a’r orsaf 🙂