Posted in Bae Colwyn cerdiau post

Llun du a gwyn o waelod hen dref Hen Golwyn

Ffoto du a gwyn o’r hen bentref, Hen Golwyn. Mae’r ffigyrau o’r dyn yn y blaen a’r plant yn y cefn yn gwneud y llun yma’n un reit ddiddorol.

Posted in Bae Colwyn cerdiau post

Golygfa o Bwllycrochan

Bae Colwyn o goedwig Pwllycrochan.

Posted in Bae Colwyn cerdiau post

Heol Gonwy, Bae Colwyn.

Enghraifft arbennig o ffotograffiaeth cynnar o oes y ceffyl a throl. Mae’n ddrwg gen i am y llinellau a ymmdangosodd ar y sgan.

Sylwch ar y ffordd mae’r nwyddau wedi eu hongian tu allan i’r siop ar y chwith.

Mae siop ‘Pryce Williams and Son’ ar yr ochr dde.

Posted in Bae Colwyn cerdiau post

O na fydda’i’n haf o hyd

Dyma olygfa o’r dref o’ch ucheldir. Dwi’n hoffi’r ddynes ar waelod y llun yn mynd a’i chi terriar am dro yn ei dillad gorau.

Posted in Bae Colwyn cerdiau post

Yr hen bentref, Hen Golwyn

Yr hen bentref, Hen Golwyn, o oes y porthmyn efallai…:-?

Posted in Bae Colwyn cerdiau post

Nant y Glyn

Roedd yr hen rodfa yma yn Nant-y-Glyn, dan gysgod coed, yn bwnc poblogaedd ymysg ffotograffwyr cerdiau post Edwardianaidd. Un o 1909 yw hwn.

Posted in Bae Colwyn cerdiau post

Dawns y Blodau

Yn edrych yn debyg i’r ferched sy’n gwneud Dawns y Blodau yn seremoniau’r Eisteddfod, dyma lun o’r 1af o Fai 1920 o grwp o ferched yn croesawu’r tywydd braf.