hanes lleol y cylch
Mae na dipyn o steil ynghylch y cerdyn post yma o’r dref.
Mae’n siwr mai sicrhau golygfa o’r mor i bob cartref oedd y rheswm am adeiladu’r tai yn y blaen mewn hanner cylch
Beth sy’n arbennig am y llun ymao Fae Colwyn yw’r ffaith fod y rheilffordd yn domineiddio’r olygfa.
Tystiolaeth o bwysigrwydd y rheilffyrdd yn yr oes hynny.
Ciwt yn de?
Hen lun o’r dref o 1903 gyda neges cerdyn post ar flaen y cerdyn.
Cerdyn post Valentine wedi’i gyhoeddi gan John Hoskin o’r dref. Ffordd yr Orsaf gyda baner anferth yn chwifio uwchben y stryd o’r ochr chwith.
Dau fodel o long hwylio yn symud yn braf ar lyn Parc Eirias.
Hen hen lun o’r Dingle, Bae Colwyn. Un o’r ‘Unique Series’ o gardiau post.
Cerdyn post gomig o bachgen bach yn wylo am ei fod wedi colli ei dad.
Dwn i ddim beth yw’r beipen sy’n dod allan o gefn y trol ar y chwith. Ydy o’n injian dan? Yn glanhau y ‘drains’? Y lori garffosiaeth?
Copyright © 2026 BaeColwyn.com
Design by ThemesDNA.com