Posted in Bae Colwyn cerdiau post

Dawns y Blodau

Yn edrych yn debyg i’r ferched sy’n gwneud Dawns y Blodau yn seremoniau’r Eisteddfod, dyma lun o’r 1af o Fai 1920 o grwp o ferched yn croesawu’r tywydd braf.

Posted in Bae Colwyn ffotograffiaeth

Imperial Hotel Bae Colwyn: ffoto o tua 1890

Ffordd yr Orsaf – Station Road – Bae Colwyn, gyda’r Imperial Hotel yn edrych yn ysblennydd.

Ffordd yr Orsaf - Station Road - Bae Colwyn. Llun Library of Congress

Posted in Bae Colwyn ffotograffiaeth

Drudwy’n dathlu achubiaeth Pier Bae Colwyn

Yn dilyn y newyddion fod y Cyngor wedi prynnu Pier Bae Colwyn, dyma luniau o ddrudwy yn hedfan uwch ei ben.

Posted in Bae Colwyn ffotograffiaeth

Pafiliwn Pier Bae Colwyn

Tua diwedd y cyfnod Fictorianaidd tynnwyd y llun yma o Bier Bae Colwyn. Sylwch ar y Pafiliwn ar ben y Pier. Roedd hwn yn boblogaiddd ymysg ymwelwyr i’r Bae gyda pherfformiadau a chyngherddau di-ri.

Y Pier a'r Pafiliwn Bae Colwyn tua 18900 Library of Congress

Posted in Bae Colwyn ffotograffiaeth

Bae Colwyn o’r goedwig. Ffotograff o tua 1890

Dyma lun o Fae Colwyn o gyfeiriad y goedwig uwchben lleoliad Parc Eirias dwi’n credu. Tynnwyd y llun yn negawd olaf C19 a daw o gasgliad Llyfrgell Congress UDA. Caeau glas ble bydd tai.

Bae Colwyn o'r goedwig tua 1890 Libary of Congress UDA

Posted in Bae Colwyn cylch lleol

Hywel Gwynfryn ar draeth Bae Colwyn

Bydd Hywel Gwynfryn, Radio Cymru, yn darlledu’n fyw ar y traeth ym Mae Colwyn ar Dydd Gwener Mehefin 10fed fel rhan o Daith y Saith Traeth. Bu ei gynhyrchydd mewn cysylltiad i ofyn am awgrymiadau – cymeriadau’r cylch – i gael sgwrs gyda Hywel ar y radio. Defnyddiwch y ffurflen Sylwadau isod os am awgrymu rhywun.

Posted in Bae Colwyn

Dyddiad i’ch dyddiadur: 28ain o Fai 2012

Dyna pryd fydd y torch Olympaidd yn cael ei gario rhwng Bangor a Chaer. Y gobaith yw y bydd y fflam yn pasio’n agos i Fae Colwyn. Cyhoeddir manylion taith y torch gan London 2012 mis nesaf.

Dyma ddolen i’r ffurflen er mwyn awgrymu person i gario’r torch, (cyn y 27ain o Fehefin 2011).

O.N. Oes na adran Gymraeg i wefan swyddogol y Gemau Olympaidd nesaf?

Posted in Bae Colwyn cylch dyfrliw Hen Golwyn lleol

Sinemâu Bae Colwyn

Bu Dad yn sôn yn ddiweddar am rai o sinemâu yr ardal:

Arcadia – to fflat mwyaf Ewrop yn ôl y sôn pan adeiladwyd ger yr hen swyddfa bost. Newidiodd enw’r sinema i The Wedgewood. Dwi’n cofio gwylio sawl ffilm James Bond yn y Wedgewood. Paentiwyd yr adeilad yn Wedgewood Blue.

Princess – nepell o’r Arcadia/Wedgewood. Sinema lai ger y farchnad dan do ble roeddwn i’n arfer prynu monkey boots yn y 70au. Boi o Glan Conwy oedd piau’r hen farchnad medde Dad.

Cosy – wrth y bus stop ger y llyfrgell Bae Colwyn. Am enw braf i sinema.

Rialto – roedd Dad yn cofio’r enw ond fawr mwy am y sinema yma.

Odeon – gyferbyn ag Eglwys St John’s. Newidiodd ei enw i’r Astra. Mae ‘na ffotograffau ardderchog o’r sinema hon ar wefan English Heritage. Am resymau hawlfraint, does dim modd dangos y rhain ar y wefan hon, ond dyma sgets frysiog gen i o’r hen Astra. Roedd hi’n eicon Art Deco ac mae’n golled i Fae Colwyn. Fflatiau sydd ar y safle yma heddiw.

sgets o'r Astra - Odeon

Roedd ‘na sinema yn Hen Golwyn hefyd ond nid oedd Dad yn cofio’i enw.
Am ei fod yn mynd i’r ysgol yn Llanrwst, arferai Dad fyn i Luxor Llanrwst i wylio ffilmiau yn aml.Dywedodd ei fod wedi methu’r bys olaf adre sawl gwaith ac wedi gorfod cerdded adra pob cam o Lanrwst i Glan Conwy.

Posted in Bae Colwyn

Gwegamera

Mae’n braf yng Nghonwy heddiw, yn ôl y ddelwedd o wegamera teamdolly.co.uk Pete Macmillen. Diolch i Pete am ganiatáu i  ni arddangos lluniau o’i wegamera yma ar BaeColwyn.com. Mae ‘n linc cyson i’r llun ar ben y dudalen hon.

Conwy
Posted in Bae Colwyn bwyd

Smorgasbord ym Mharc Eirias

Rhywbryd yn fy mhlentyndod, mae gen i gof fod Mam a Dad wedi mynd a ni am ginio Sul i’r Four Oaks ym Mharc Eirias, Bae Colwyn. Roedd na ‘menu’ newydd: Smörgåsbord; bwffe o Sweden; talu un pris a bwyta llond eich bol. Raedd ‘na grafadlacs, bara rhyg, penwaig wedi biclo, ayb

Mae’r Four Oaks wedi diflannu bellach, ond dwi dal i gofio’r cinio Sul yna nol yn y 70au.

Four Oaks, Parc Eirias, Bae Colwyn (chwith). Sgets gan Harry Gee.
Four Oaks, Parc Eirias, Bae Colwyn (chwith). Sgets gan Harry Gee.