Posted in Cymraeg lleol

Sut i greu blog lleol Cymraeg

Mae Carl Morris newydd gyhoeddi tudalen ar Hedyn sy’n egluro sut i sefydlu blog lleol fel BaeColwyn.com. Bues i yn Talk About Local ddydd Sadwrn a bu trafodaeth ddwys am ein traddodiad Papurau Bro. Yn ogystal â blogiau lleol, oni fyddai’n braf gweld mwy o fersiynnau arlein o’r Papurau Bro hyn? Un ffigwr welais i am amcan nifer darllenwyr (nid gwerthiant) holl Bapurau Bro Cymru oedd 70k. (c/f  Western Mail 33k, Daily Post ?k, South Wales Echo 50k, South Wales Argus 30k, Evening Post 54k, Golwg 12k, Cymru 4k -Ffynonellau: rhai yn ABC, eraill amrywiol) 
Diolch i Carl am gyhoeddi’r cyfarwyddiadau cam-wrth-gam.

Posted in Bae Colwyn bwyd

Smorgasbord ym Mharc Eirias

Rhywbryd yn fy mhlentyndod, mae gen i gof fod Mam a Dad wedi mynd a ni am ginio Sul i’r Four Oaks ym Mharc Eirias, Bae Colwyn. Roedd na ‘menu’ newydd: Smörgåsbord; bwffe o Sweden; talu un pris a bwyta llond eich bol. Raedd ‘na grafadlacs, bara rhyg, penwaig wedi biclo, ayb

Mae’r Four Oaks wedi diflannu bellach, ond dwi dal i gofio’r cinio Sul yna nol yn y 70au.

Four Oaks, Parc Eirias, Bae Colwyn (chwith). Sgets gan Harry Gee.
Four Oaks, Parc Eirias, Bae Colwyn (chwith). Sgets gan Harry Gee.
Posted in Bae Colwyn fideo

Mods 1982

Dyma fideo o 1982 o rali sgwters ym Mae Colwyn gan Rob2Stroke.

Posted in Bae Colwyn Eisteddfod fideo

Pwt o ffilm Pathe News o Eisteddfod Bae Colwyn 1947

Bae Colwyn – Eisteddfod Genedlaethol 1947

Beth tybed sydd yn nghefndir y shot ola? Ai’r llyn cychod neu’r mor sydd yno?

Os nad yw’r fideo yn ymddangos, cliciwch yma.

Posted in Deganwy

Harbwr llechi Deganwy

Llun gan hen hen daid cymydog fy nhad yw hwn. Dyma longau yn Neganwy yn cael eu llwytho gyda llechi. Diolch i Brian Haynes am roi sgan o’r llun i mi.

Yn ol y dudalen hon (PDF), hwylio allan o harbwr dyfnach Porthmadog wnaeth y rhan fwyaf o lechi trymion Blaenau Ffestiniog. Serch hynny, roedd porthladd Deganwy ar ei anterth rhwng 1886 a 1914, gyda glo o dde Cymru a choed o Sgandinafia yn cyrraedd wrth i’r llechi adael.

Posted in Bae Colwyn fideo

Rheilffordd drydanol Bae Colwyn a Llandudno

Dyma em o fideo o YouTube o 1954 yn dangos y rhielffordd drydanol rhwng Bae Colwyn a Llandudno.

Os ewch chi i ail hanner y  ffilm, mi welwch chi’r tren yn pasio top Stryd yr Orsaf, gyda’r Central Hotel yn y cefndir. Wedyn mae’r tram yn pasio’r West End – gwaelod Victoria Park. Mae na hefyd shot o’r tram yn Llandudno.  Doeddwn i rioed wedi gweld ffilm o’r tram yma o’r blaen. Diolch i Huntley Film Archives am rannu’r ffilm:

Posted in cerddoriaeth cylch

Dwi’n dod o Rhyl

Sesiwn Unnos wych neithiwr gan MC Mabon, Tesni Jones, Ceri Bostock, Ed Holden a David Wrench ar C2 Radio Cymru.  Nepell o Fae Colwyn, mae’r Rhyl a “Dwi’n dod o Rhyl” yw testun un o’r caneuon Trac 3.

dwindodorhyl
Gyda llaw, son am Sesiwn Unnos, mae’r gan gan Y Polyroids – Siapiau i’r Haf (Trac 4) yn wych.

Posted in tech

Adeiladu

Er nad yw’r Cofnodion wedi dechrau o ddifri eto, os edrychwch chi ar y stribed du uwchben, mae ‘na fwy o Dudalennau wedi’u hychwanegu i’r blog.

Newyddion – cymysgedd o ffrydiau BBC a Golwg360
Tywydd – rhagolygon gan y Met Office yn Gymraeg
Cymuned – map a ffrwd o sylwadau a chwynion gan drigolion ardal Bae Colwyn. Dwi’n gadael y sylwadau yn yr iaith wreiddiol am rŵan
Dolenni – wedi adio ambell un; mwy i ddod
Ynghylch – dodrefn yr ‘About page’ wedi’i osod. Nes i ystyried ail-enwi’r adran hon i ‘Amdan’. Hefyd, enw arfaethedig ar yr adran gwerthu yw ‘Fi Gyn’. (Jôc oedd y ddau beth ola’ na).

Ar ochr dde’r dudalen mae ‘na ffrwd o Umap – Twitter Cymraeg. Diolch i Rhodri ap Dyfrig @nwdls am gydweithio gyda’r awduron i greu fersiwn CY o Umap. Hoffwn i weithio ar dwmffat i roi sylw i drydar am ‘colwyn’.

Os oes ‘na unrhyw un arall sydd wrthi’n datblygu gwefan heipr neu heipyr lleol Cymraeg fel hyn, pob lwc a ma’ ‘na groeso i chi gysylltu.

Canolfan Siopa Golygfa'r Bae
Canolfan Siopa Golygfa'r Bae - BayView
Posted in Bae Colwyn

Troed yn y dŵr

Gwefan heipr-lleol – neu falle dim ond lleol – am Fae Colwyn, Hen Golwyn, Llandudno a’r Bae gyfa’.

Adeilad, Ffordd yr Orsaf, Bae Colwyn