Awdur: melyn
Gwarth y llosgi sgidiau
Ar ochr ffordd Bwlch Crimea rhwng Ddolwyddelan a Blaenau Ffestiniog, mae na lain o dir moel. Wrth edrych yn agosach fe welwch chi fod yna bedolau bychain yn y pridd. Mae’r stori tu ol i hwn yn un dwi’n cofio Nhaid yn adrodd pan oeddwn i’n hogyn bach yn mynd am drip dydd Sul yn y car gyda fo, y teulu a Nain.
Ar ôl y rhyfel, roedd yna dlodi ym Mlaenau Ffestiniog. Pan ddaeth y fyddin gyda llwyth o sgidiau i losgi, plediodd y bobl leol am gael cadw’r sgidiau. Ond fe fynnodd y fyddin fod angen llosgi pob esgid. Dywedodd un aelod lleol o’r gymuned yn gandryll: “Os losgwch chi’r esgidiau yna, neith ddim blewyn o laswellt tyfu yno byth eto “. Ac yn wir i chi, mae’r tir yn parhau yn foel yn y fan ble losgwyd yr esgidiau.
Yr Eglwys a’r Llew Gwyn, Llanelian.
Tynnu llun o Erddi Bodnant
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnal cystadleuaeth ffotograffiaeth yng Ngerddi Bodnant, Glan Conwy.
Talebau £100 Cambrian Photography, Bae Colwyn, yw’r gwobrau. Hefyd mae ‘na gyfle i fynychu sesiwn hyfforddi gyda Pierino Algieri yn y Gerddi ar yr 31ain o Fai 2015.
Llun Bill Buck











