Adeiladu

Er nad yw’r Cofnodion wedi dechrau o ddifri eto, os edrychwch chi ar y stribed du uwchben, mae ‘na fwy o Dudalennau wedi’u hychwanegu i’r blog.

Newyddion – cymysgedd o ffrydiau BBC a Golwg360
Tywydd – rhagolygon gan y Met Office yn Gymraeg
Cymuned – map a ffrwd o sylwadau a chwynion gan drigolion ardal Bae Colwyn. Dwi’n gadael y sylwadau yn yr iaith wreiddiol am rŵan
Dolenni – wedi adio ambell un; mwy i ddod
Ynghylch – dodrefn yr ‘About page’ wedi’i osod. Nes i ystyried ail-enwi’r adran hon i ‘Amdan’. Hefyd, enw arfaethedig ar yr adran gwerthu yw ‘Fi Gyn’. (Jôc oedd y ddau beth ola’ na).

Ar ochr dde’r dudalen mae ‘na ffrwd o Umap – Twitter Cymraeg. Diolch i Rhodri ap Dyfrig @nwdls am gydweithio gyda’r awduron i greu fersiwn CY o Umap. Hoffwn i weithio ar dwmffat i roi sylw i drydar am ‘colwyn’.

Os oes ‘na unrhyw un arall sydd wrthi’n datblygu gwefan heipr neu heipyr lleol Cymraeg fel hyn, pob lwc a ma’ ‘na groeso i chi gysylltu.

Canolfan Siopa Golygfa'r Bae
Canolfan Siopa Golygfa'r Bae - BayView

Author: melyn

9 thoughts on “Adeiladu

  1. SYniad ardderchog: Dyma syniad am rai pethau i’w hychwanegu (rhia gyda ffrydiau, rhai angen bach o grafu)

    Flickr
    http://www.flickr.com/search/?q=%22bae+colwyn%22

    Lleol.net
    http://lleol.net/results.php?keyword=&where=Bae+Colwyn&template_id=
    yn dod a canlyniad gwahanol i
    http://lleol.net/results.php?keyword=&where=Bae+Colwyn%2C+Conwy&template_id=

    Byddai’n hollol cwl gallu mewnosod map/rhestrau o’r wefan yma – falle wnai i hintio ar Twitter!

    Curiad.org
    Mae’n criminal does neb yn defnyddio’r wefan yma
    Mae modd chilio am gigs yn ôl trefi, er does dim modd mewnosod map na’r rhestr gigs wedyn. Famma fyddai gigs bBae Colwyn
    http://curiad.org/gigs/chwilio/?a=&b=31&d1=11&m1=02&b1=2011&d2=11&m2=02&b2=2012&t=1&x=Chwilio
    (rhiad ti drefnu gig yn y dre i weld os dio’n gweithio -Meic Stevens?)

    Dyma venues ble bu gigs ym Mae Colwyn yn y gorffenol
    http://curiad.org/lleoliad/chwilio/?b=31&t=1&x=Chwilio

    Ceisiadau Cynllunio
    Ddim yn siwr os oes modd crafu hwn (roedd gwefan MySocietyish o’r enw Planning Alerts, ond gorfod iddo gau).
    http://www.conwy.gov.uk/Northgate/planningexplorerWelsh/generalsearch.aspx
    Ond cynnwys yn Saesneg ta beth, mond rhyngwyneb Cymraeg + byddai rhaid casglu wards.

    Digwyddiadur Radio Cymru
    http://www.bbc.co.uk/radiocymru/digwyddiadau/
    Hwn yn hynod o gynhwysfawr a hawdd i’w gyrchu, gyda categoriau arbennig ar gyfer math o ddigwyddiad a venue penodol. Basai’n handi i’r wefan yma petai modd chwilio hefyd yn ôl tref (neu sir) a bodd RSS neu rhyw fodd o fewnosod – clust pwy dylid ei blygu?

  2. Rhys, Diolch yn fawr am fynd i’r holl drafferth o restru cymaint o syniadau.

    Bydda allu dangos ceisiadau cynllunio’r ardal yn wych. Na’i ystyried sut …

    Dwi’n gwybod am wefan Curiad ers talwm ond doeddwn i erioed wedi defnyddio’r geid gigs o’r blaen.

    Dwi newydd gael gair gydag Aled – cynhyrchydd gwefan Radio Cymru. Mae’n falch dy fod yn hoffi’r Digwyddiadur. Dywed fod ei gais am waith ‘declarations’ RSS yn nwylo’r tîm technegol ers peth amser. Lot o waith datblygu arall o’i flaen yn y ciw am wn i.

    Dau beth database-ey arall ar Radio Cymru all fod o ddiddordeb i ti:

    1. Chwilio am bob cerdd Talwrn y Beirdd sy’n cynnwys y gair ‘america’:
    http://cot.ag/gXP2pR

    2. Holl ryseitiau ‘cawl’ ar raglen Blas:
    http://cot.ag/eWapHf

    Diolch eto, Gareth

  3. Waw, dylai rhywun m gwefan y BBC sgwennu erthygl i haciaith.com am hyn – angen gadael i bobl wybod (a PR da i’r Bîb ar adeg pan maen nhw dan y lach am wasanaeth Cymraeg ar-lein!)

  4. Rhys, er mod i’n gweithio i’r Gorfforaeth, prosiectau personol yw’r arbrofion lleol ‘ma. Ie, ti’n iawn, un o Abergele ydw i, mae gen i lwyth o atgofion melys o’m mhlentyndod ar hyd arfordir y Gogledd.
    Cyn i mi ddechrua’r wefan hon, nes i fildio Abergelepost.com.

  5. Fase’n dda gallu cael ffrwd RSS ar Umap o:

    1) holl tweets Cymraeg Umap; a
    2) unrhyw search ar Umap. e.e. http://cy.umap.eu/colwyn/

    Gan bod y wefan yn archifo tweets hefyd mae’n bosib bydd na ddefnyddiau pellach rhyw dro iddo. Yn sicr byddai creu ffrydiau RSS fel yr uchod yn galluogi pobol i gynhyrchu apps/gwasanaethau newydd yn seiliedig ar gynnwys Umap. Wn i ddim eto be ma nhw’n meddwl o wneud API ohono (neu a oes posib gwneud API israddol i API Twitter dan drwydded hwnnw).

    Mi roddai nhw ar y rhestr beth bynnag.

  6. Chwara teg i ti Rhodri am sylwi ar hwn. Fues i’n trio cael archwiliad /colwyn > RSS ond heb allu cracio hwnna hyd yma. Mae’r archif hir-dymor yn ddiddorol. Dyna un o wendidau Twitter ei hun – ei fod mor anodd i arddangos hen drydar.
    Diolch.

  7. Dwi’n licio’r syniad yma’n fawr. (Fel Gareth, er dwi’n byw yn Abergele, mae fy mywyd ddyddiol yn digwydd ar hyd y rhan yma o’r arfordir. Pretatyn/Y Rhyl hyd Llandudno.)

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *