Ynghylch

Yn 2010, nes i lansio gwefan AbergelePost.com. Y bwriad oedd iddi fod yn ddwy ieithog. Bu’r sialens dechnegol yn drech na fi. Wedyn yn Haciaith2011, bu trafodaeth am ba mor bwysig yw dwyieithrwydd mewn blogio; onid yw blog uniaith Cymraeg yn OK…?

Wedyn, darllenais i hwn a meddwl: beth am drio arbrawf lleol am Fae Colwyn a’r cylch? Bydd BaeColwyn.com yn wefan am hanes yn hytrach na newyddion, ond mi fydd yn lleol – falle hyd yn oed yn heipyr-lleol – ac mi fydd yn Gymraeg.

Dwi’n ddiolchgar i’r gymuned sy’n trosi rhyngwynebau fel un WordPress i’r Gymraeg. Hebddyn nhw fydda hyn oll lot yn anoddach.

Prosiect personol yw hwn; does dim cysylltiad gyda’r gwaith.

Joiwch a danfonwch adborth ac mae ‘na groeso i chi awgrymu cynnwys, Gareth Morlais 5 Chwefror 2011.

Gadael Ateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>