Tywysog Madog ab Owain Gwynedd oedd y person Ewropeaidd cyntaf i ddarganfod tir America yn ôl yr hanes. A hynny ym 1170 – dau ganrif cyn Christopher Colombus.
Dechreuodd ei siwrnai ym mhorthladd Aber-Cerrik yn Llandrillo-yn-Rhos (Rhos on Sea). Wedi siwrne hir, glaniodd ym Mobile, Alabama.
Dyma luniau ohono gan A. S. Boyd o’r llyfr “Prince Madog Discoverer of America A Legendary Story” gan Joan Dane, cyhoeddwyd gan Everett, Boston Mass.
Bydd Hywel Gwynfryn, Radio Cymru, yn darlledu’n fyw ar y traeth ym Mae Colwyn ar Dydd Gwener Mehefin 10fed fel rhan o Daith y Saith Traeth. Bu ei gynhyrchydd mewn cysylltiad i ofyn am awgrymiadau – cymeriadau’r cylch – i gael sgwrs gyda Hywel ar y radio. Defnyddiwch y ffurflen Sylwadau isod os am awgrymu rhywun.
Dyna pryd fydd y torch Olympaidd yn cael ei gario rhwng Bangor a Chaer. Y gobaith yw y bydd y fflam yn pasio’n agos i Fae Colwyn. Cyhoeddir manylion taith y torch gan London 2012 mis nesaf.
Bu Dad yn sôn yn ddiweddar am rai o sinemâu yr ardal:
Arcadia – to fflat mwyaf Ewrop yn ôl y sôn pan adeiladwyd ger yr hen swyddfa bost. Newidiodd enw’r sinema i The Wedgewood. Dwi’n cofio gwylio sawl ffilm James Bond yn y Wedgewood. Paentiwyd yr adeilad yn Wedgewood Blue.
Princess – nepell o’r Arcadia/Wedgewood. Sinema lai ger y farchnad dan do ble roeddwn i’n arfer prynu monkey boots yn y 70au. Boi o Glan Conwy oedd piau’r hen farchnad medde Dad.
Cosy – wrth y bus stop ger y llyfrgell Bae Colwyn. Am enw braf i sinema.
Rialto – roedd Dad yn cofio’r enw ond fawr mwy am y sinema yma.
Odeon – gyferbyn ag Eglwys St John’s. Newidiodd ei enw i’r Astra. Mae ‘na ffotograffau ardderchog o’r sinema hon ar wefan English Heritage. Am resymau hawlfraint, does dim modd dangos y rhain ar y wefan hon, ond dyma sgets frysiog gen i o’r hen Astra. Roedd hi’n eicon Art Deco ac mae’n golled i Fae Colwyn. Fflatiau sydd ar y safle yma heddiw.
Roedd ‘na sinema yn Hen Golwyn hefyd ond nid oedd Dad yn cofio’i enw.
Am ei fod yn mynd i’r ysgol yn Llanrwst, arferai Dad fyn i Luxor Llanrwst i wylio ffilmiau yn aml.Dywedodd ei fod wedi methu’r bys olaf adre sawl gwaith ac wedi gorfod cerdded adra pob cam o Lanrwst i Glan Conwy.
Mae’n braf yng Nghonwy heddiw, yn ôl y ddelwedd o wegamera teamdolly.co.uk Pete Macmillen. Diolch i Pete am ganiatáu i ni arddangos lluniau o’i wegamera yma ar BaeColwyn.com. Mae ‘n linc cyson i’r llun ar ben y dudalen hon.
Mae Carl Morris newydd gyhoeddi tudalen ar Hedyn sy’n egluro sut i sefydlu blog lleol fel BaeColwyn.com. Bues i yn Talk About Local ddydd Sadwrn a bu trafodaeth ddwys am ein traddodiad Papurau Bro. Yn ogystal â blogiau lleol, oni fyddai’n braf gweld mwy o fersiynnau arlein o’r Papurau Bro hyn? Un ffigwr welais i am amcan nifer darllenwyr (nid gwerthiant) holl Bapurau Bro Cymru oedd 70k. (c/f Western Mail 33k, Daily Post ?k, South Wales Echo 50k, South Wales Argus 30k, Evening Post 54k, Golwg 12k, Cymru 4k -Ffynonellau: rhai yn ABC, eraill amrywiol)
Diolch i Carl am gyhoeddi’r cyfarwyddiadau cam-wrth-gam.
Rhywbryd yn fy mhlentyndod, mae gen i gof fod Mam a Dad wedi mynd a ni am ginio Sul i’r Four Oaks ym Mharc Eirias, Bae Colwyn. Roedd na ‘menu’ newydd: Smörgåsbord; bwffe o Sweden; talu un pris a bwyta llond eich bol. Raedd ‘na grafadlacs, bara rhyg, penwaig wedi biclo, ayb
Mae’r Four Oaks wedi diflannu bellach, ond dwi dal i gofio’r cinio Sul yna nol yn y 70au.
Four Oaks, Parc Eirias, Bae Colwyn (chwith). Sgets gan Harry Gee.
Llun gan hen hen daid cymydog fy nhad yw hwn. Dyma longau yn Neganwy yn cael eu llwytho gyda llechi. Diolch i Brian Haynes am roi sgan o’r llun i mi.
Yn ol y dudalen hon (PDF), hwylio allan o harbwr dyfnach Porthmadog wnaeth y rhan fwyaf o lechi trymion Blaenau Ffestiniog. Serch hynny, roedd porthladd Deganwy ar ei anterth rhwng 1886 a 1914, gyda glo o dde Cymru a choed o Sgandinafia yn cyrraedd wrth i’r llechi adael.
Mae hen ffrind coleg i mi yn byw yn y rhes bach o dai yn y Dingle, y ty olaf ar y pen. Mae eu gardd gefn yn fwy serth na gardd gefn ty teras yng Nghymoedd y De! […]
Mae'n debyg nad yw'r aderyn yn arbennig o hoff o gysgu o dan y pier. Ond maen nhw'n gweld eu ffrindie yn hedfan o dan y pier ac yn rhoi mewn i peer pressure Rhys […]