Category Archives: cerdiau post

Yr hen bont pren

Darlun rhamantus o bont pren dros nant gul mewn coedwig uwchben Bae Colwyn.

Posted in Bae Colwyn, cerdiau post | Leave a comment

Mewn harmoni gyda’r Welsh Lady

Mae’r dyn yn dal yn dynn (armlock?) yn llaw y ddynes Gymreig ac yn cuddio ar y chwith mae na ddyn arall gyda barf. Wow. Ding-dong yn y Dingle.

Posted in Bae Colwyn, cerdiau post | Leave a comment

Glaw i ddod

Golygfa o gaeau Fferm Plas, Llysfaen. Mae’r gwartheg yn gorwedd, felly mae hi am law.

Posted in cerdiau post, Llysfaen | Leave a comment

“Tarts and Tea”

Dwi’n credu mai Tarts and Tea yw’r arwydd ar y caffi ar y chwith. Dyma Beach Rd yn 1924 yn ei ogoniant.

Posted in Bae Colwyn, cerdiau post | Leave a comment

Llun du a gwyn o waelod hen dref Hen Golwyn

Ffoto du a gwyn o’r hen bentref, Hen Golwyn. Mae’r ffigyrau o’r dyn yn y blaen a’r plant yn y cefn yn gwneud y llun yma’n un reit ddiddorol.

Posted in Bae Colwyn, cerdiau post | Leave a comment

Golygfa o Bwllycrochan

Bae Colwyn o goedwig Pwllycrochan.

Posted in Bae Colwyn, cerdiau post | Leave a comment

Heol Gonwy, Bae Colwyn.

Enghraifft arbennig o ffotograffiaeth cynnar o oes y ceffyl a throl. Mae’n ddrwg gen i am y llinellau a ymmdangosodd ar y sgan. Sylwch ar y ffordd mae’r nwyddau wedi eu hongian tu allan i’r siop ar y chwith. Mae … Continue reading

Posted in Bae Colwyn, cerdiau post | Leave a comment

O na fydda’i'n haf o hyd

Dyma olygfa o’r dref o’ch ucheldir. Dwi’n hoffi’r ddynes ar waelod y llun yn mynd a’i chi terriar am dro yn ei dillad gorau.

Posted in Bae Colwyn, cerdiau post | Leave a comment

Yr hen bentref, Hen Golwyn

Yr hen bentref, Hen Golwyn, o oes y porthmyn efallai…:-?

Posted in Bae Colwyn, cerdiau post | Leave a comment

Nant y Glyn

Roedd yr hen rodfa yma yn Nant-y-Glyn, dan gysgod coed, yn bwnc poblogaedd ymysg ffotograffwyr cerdiau post Edwardianaidd. Un o 1909 yw hwn.

Posted in Bae Colwyn, cerdiau post | Leave a comment